Tudalen:Dyddgwaith.djvu/124

Gwirwyd y dudalen hon

ddinas draw, lle ni pheidiodd cyfrwysach dulliau ymdrech gyffelyb hyd y dydd hwnnw. Troes yr adeiladau yn y ddinas draw yn lliw fflam yn y goleuni, fel y dyfnhai. Nofiai tarth ysgafn uwchben, fel mwg, a thywyllodd hwnnw'n araf fel yr âi'r haul yn is. Edrychai'r ddinas fel pe buasai ar dân, fel y bu lawer gwaith yn ystod mil o flynyddoedd, fel y byddai eto, efallai, yn wir . . . Edrychai'r tai bychain gwynion ar y morfa yn hen iawn, yn gyntefig, yn ddiniwed, fel y bydd nyth aderyn yn edrych. Aeth cryndod tros yr hesg ar ymyl yr hen faes brwydr, nes eu bod yn gwneud rhyw sŵn bach trist, megis pe buasai'r awel ei hun yn crino yn eu mysg, nes ei bod hithau'n hen ac yn drist wrth ddwyn i ni megis adlais gwan o riddfan y gwŷr a drengodd yno, fil o flynyddoedd yn ôl, miloedd o wŷr, na wyddis enwau onid ychydig ohonynt. Yna distawrwydd dwys. Edrychai'r tai bychain yn hŷn fyth, yn druanach fyth, ond eto fel pe buasent hwy a daear y wlad yn un â'i gilydd, fel pethau oedd yno erioed, ac a fyddai yno wedi darfod am rai pethau a welem. Tawsom. Nid oedd fodd chwerthin yno.

Fel yr edrychem tua'r môr, crychodd wyneb y dŵr yn ein hymyl, megis ped aethai ferw drwyddo.