Tudalen:Dyddgwaith.djvu/129

Gwirwyd y dudalen hon

GOFYNNODD cyfaill o Sais i mi unwaith, nid o ran dirmyg na sarhaed, mi wyddwn, a fedrwn i esbonio iddo pam y bydd cynifer o Gymry mor anhapus pan feddyliont fod eu gwlad fach yn troi'n Seisnig, neu o leiaf yn peidio â bod yn Gymreig.

Pan ofynnwyd y cwestiwn i mi felly yn groyw, gan ddyn y gwyddwn nad oedd ganddo un amcan onid deall peth nas deallai, teimlais innau nad peth hawdd fyddai i mi roi iddo ateb a fyddai'n rhesymol yn ei olwg. Tewais ennyd. Sefyll yr oeddym ar lethr mynydd o'r lle y gwelem Ddyffryn Clwyd yn ymagor o'n blaenau. Oddi tanom, Morfa a Chastell Rhuddlan. Draw yn y pellter, Castell Dinbych. Pen Parc y Meirch gyferbyn â ni. Cefn Ogof yn nes i'r môr, a llawer man arall lle bu ymdrech gynt. "Peth fel hyn," meddwn, gan gyfeirio at y wlad, "buom yn ymladd amdano gynt, ac fe'i collsom."

"Do," meddai fy nghyfaill, "'rwy'n deall peth felly. Ond y mae canrifoedd er hynny. Pa fodd yr ydych yn cofio cyhyd: Nid gelynion monoch