Tudalen:Dyddgwaith.djvu/130

Gwirwyd y dudalen hon

chwi a minnau heddiw, na'ch pobl chwi a'm pobl innau chwaith o ran hynny. Daeth y Normaniaid i Loegr, a churo, ond ni byddwn ni ddim yn cofio o hyd am hynny."

"Na byddwch," meddwn, "a da i chwi nad rhaid i chwi. Ond tybiwch fod yr ymdrech honno'n dal i fynd ymlaen o hynny hyd heddiw."

"Ond, pa fodd y gallai?"

"Fel y gallodd yma."

"Ond nid oes ond un llywodraeth i'r ddwy wlad ers canrifoedd, ac y mae popeth sy'n agored i ni yn agored hefyd i chwithau."

"Diau. Ond beth pe bai'r llywodraeth Norman honno'n dal yn Lloegr, ac yn dal i siarad Ffrangeg———."

"Hi fu'n siarad Ffrangeg am amseroedd."

"Do. Ond fe beidiodd. Beth pe bai traddodiad Seisnig, arferion Seisnig, yr iaith Saesneg hyd yn oed, hyd heddiw fel y mae traddodiad ac arferion Cymreig a'r iaith Gymraeg yng Nghymru?'

"Ie. Mi fûm yn meddwl am hynny hefyd . . . Credu'r wyf y byddem ni oll yn Lloegr wedi newid ein traddodiad a'n harferion a'n iaith.