Tudalen:Dyddgwaith.djvu/149

Gwirwyd y dudalen hon

PAN fo hen gyfoedion a fu, ac a barhaodd hefyd drwy bob newid, yn gyfeillion, yn cyfarfod â'i gilydd ar dro yn rhywle ar ffordd fawr bywyd, dywedyd y byddant ei bod hi'n hen bryd iddynt gael y cyfle unwaith yn rhagor i "roi'r byd yn ei le." Llawer gwaith y gwnaethant hynny yn ystod y dyddgwaith, ac eto ni wybu'r byd y dim lleiaf oddi wrthynt, ac nid nes mono i'w le wedi'r tro olaf nag wedi'r cyntaf. A'r tebyg yw na bydd y byd-fydd-yn-ei-le byth i'w gael yn unman, onid yng nghytundeb cyfeillion.

Gofyniad cyffredin gan y naill o'r ddau hen gyfaill i'r llall fydd-"Wyt ti'n cofio mor wirion fyddem gynt, yn credu'r peth hwn neu'r peth arall?" Ac fe fydd y llall yn cofio ac yn cytuno. Onid peth felly, yn wir, fydd hanes y blynyddoedd, darganfod o dro i dro mor wirion fyddid cynt? Yr awydd am rywbeth amgen, rhywbeth na bydd ef lle bôm ni, onid hwnnw a'n tynnai o hyd at y peth-sydd-yn-ei-le? Ac ymlaen yn y pellter y byddai hwnnw o hyd. Onid ymguddiai ef y tu draw i bob tro yn y ffordd, a phan ddoem