uwchraddol tuag atom, gan chwerthin weithiau am ein pen, pe pen hefyd, ac awgrymu na waeth heb wastraffu amser, na ŵyr neb beth yw, at oleuo'r rhai na roddwyd iddynt mo'r ddawn— ni ddywedid gan bwy—i weled pethau fel y maent, nid fel yr edrychont. Pe gofynsem ninnau sut y mae pethau, a gaem ychwaneg na rhes o dermau mawr mawr am bethau bach bach, mor fach weithiau fel y gellid amau a oeddynt yn bethau o gwbl, hyd yn oed er cael enw o Ladin bas arnynt yn gwarantu eu petholdeb? A ninnau yn ein penbleth, eto heb allu dirnad profiad hen bobl addfwyn nac ateb cwestiynau plant bach, yn chwennych ac eto'n ofni gofyn ai gyda hwy wedi'r cwbl y mae'r byd sydd yn ei le, y pellter a'r awen, y reddf sy'n sicrach na barn—ai eiddynt hwy yw holl ogoniant bod yn effro?
Un peth sydd sicr i ni bellach. Ni chawn ni ddim myned yn ôl. A thraw, ymlaen, y mae'r niwl a'r cysgod, yr anhysbys a'r di-gyfrif. Ac eto, cawn gysgu'n drwm wedi'r dyddgwaith. Ac a allem ni gynt, ai ynghwsg ai yn effro, ddychmygu am beth na allo'r Dirfod ei roddi i ni, o'r drugaredd sy dragywydd: Onid Efô a egyr y drws i bob un ohonom yn ei dro, ac a rydd i ni orffwys?