Tudalen:Dyddgwaith.djvu/28

Gwirwyd y dudalen hon

Yr oeddis wedi fy nysgu y byddem fyw am byth yn y nefoedd. Ar y cyntaf yr oedd y syniad hwnnw yn un wrth fy modd. Yn enwedig gan fod cwlwm agos rhyngddo a'r sôn am y delyn aur a'r gwisgoedd gwynion. Ond yn araf deg, daeth newid dros fy meddwl. Clywais ganu emyn "Y Delyn Aur," ac nid llawen fyddwn wrth wrando arno. Oni bai mai gwendid oedd wylo yn ôl ffilosoffi'r teulu, buaswn yn gadael i ddagrau ddyfod i'm llygaid pan fyddid yn canu na ddôi byth ddiwedd ar sŵn y Delyn Aur.

Felly, ond odid, y dechreuais amau ai peth hyfryd i'w fawr ddymuno fyddai byw'n dragywydd. Oni flinem yn ofnadwy? O gam i gam euthum i led obeithio nad gwir mo'r gred y byddai raid i ni fyw am byth yn sŵn y Delyn Aur. Ni feiddiwn ddywedyd y pethau hyn wrth neb byw, dim ond holi ambell un am y byw'n dragywydd. Yn ôl pob ateb a gawn, nid oedd un amheuaeth ar y pen hwnnw. Ac yn y benbleth honno yr oeddwn pan ddaeth y syniad y soniais amdano i'm meddwl.

Diwrnod hyfryd o haf ydoedd hi, a phan euthum allan yn y bore, yn gynharach nag arfer,