Tudalen:Dyddgwaith.djvu/64

Gwirwyd y dudalen hon

Nid un mo brofiad fy nghyfaill a minnau. Yr oedd Ardudwy yn feddiant iddo ef. Rhaid i minnau fodloni ar Gymru yn unig. A bûm o ran hynny lawn mor gartrefol yn Iwerddon neu Gernyw. Hyd yn oed ar y Cyfandir neu yn yr Aifft, nid am ryw fan lle byddwn un o'm tylwyth y byddai arnaf hiraeth, ac yng Nghymru ei hun nid oedd un man mwy na'i gilydd i mi.

Pan awn ar ddamwain i hen gynefin fy nhadau, gwir y byddwn innau'n teimlo y gallaswn aros yno, er bod dwy genhedlaeth rhyngof a'r rhai a fu fyw a marw yno, ac a fedrai, mi glywais, ddywedyd i'r funud pa awr o'r dydd fyddai hi wrth oleuni'r haul ar glogwyn neu lechwedd, ac a gysylltai ryw ddigwyddiad yn hanes y teulu â phob lle a welid yno. Pa beth well a welswn innau erioed yn unman na'r noswaith lawen ar hen aelwyd yn y Glasgwm neu Groesor, lle'r oedd yr ymborth wrth ddefod, a gwasanaeth y bwrdd wrth foes cenedlaethau a fu; yr adrodd ystraeon a'r canu penillion yn gelfyddus o hyd; curiad y gwaed eto'n gryf, a'r awyr a anadlem, hithau'n llawn o gyfaredd canrifoedd: Diau, un ohonynt fyth oeddwn innau, ac eto, rywfodd, ar led yn yr holl fro, megis, yr oedd y pethau hyn i mi, onid