Tudalen:Dyddgwaith.djvu/72

Gwirwyd y dudalen hon

Nid oedd yno ddim o'i hanes, dim ond y llun. Trist oedd yr wyneb ond yr oedd yn hardd, pen crwn, gwallt crych, bron iawn fel gwallt fy mrawd bach, oedd fel goleuni'r haul "yn ddigon. o ryfeddod," meddai Mari Wiliam. Yr oeddwn yn sicr mai'r un lliw oedd modrwyau gwallt y cleddyfwr oedd yn marw. Trist oedd meddwl ei fod yn marw, ond yr oedd ef o leiaf wedi tyfu i'w faint, a gwyddwn fod yn rhaid i bobl wedi tyfu i'w maint farw. Byth er pan welswn yr oen bach wedi marw yn y coed, pan oeddwn yn bur fychan, byddai'n ddrwg iawn gennyf dros bob peth fyddai'n gorfod marw yn ieuanc. Byddai'r cylchgrawn yn rhoi hanes bechgyn a merched bach wedi marw yn ieuainc, a lluniau rhai ohonynt. Byddai golwg drist ar y rheiny, fel pe na buasent erioed wedi bod yn hapus. Byddwn yn meddwl eu bod yn gwybod, efallai, y byddai'n rhaid iddynt farw yn ieuainc, ac er eu bod bob amser wedi bod mor dda, rhaid bod ofn marw arnynt. Ond nid oedd wyneb y cleddyfwr yn peri i rywun feddwl na bu ef erioed yn hapus, na bod arno ofn marw.

Dywedid wrthyf weithiau y dylaswn innau geisio bod fel y plant bach da hyn. Yn wir, yr