Tudalen:Dyddgwaith.djvu/73

Gwirwyd y dudalen hon

oeddwn wedi ceisio fwy nag unwaith, a methu bob tro bron, ac o achos y peth fyddai'n digwydd. yn gyffredin ar ôl i mi fethu, yr oedd gennyf ryw fath o gwyn yn erbyn plant bach da iawn, yn enwedig bechgyn bach. Ond ni byddwn yn teimlo'n gas at y rhai fu farw chwaith. Byddai eu lluniau'n peri i mi gofio am yr oen bach hwnnw, mor llonydd, mor oer, a byddai mor ddrwg gennyf drostynt fel y byddwn yn sicr bod yn well i mi beidio â darllen eu hanes.

Yn sydyn, wrth droi'r dail, a gwrando ar y ci lwcus oedd yn cyfarth oddi allan, dyma fi ar draws ystori am yr Indiaid Cochion. A dyma ddarllen. Hyd hynny, fy nheimlad fyddai mai dyletswydd heb fod bob amser yn bleserus fyddai darllen. Ond dyma ddarganfyddiad o'r radd flaenaf. Digwyddai fy mod eisoes wedi gweled Indiaid Cochion—o leiaf, dyna beth a ddywedai'r cymdogion amdanynt. Yr oeddynt yn byw heb fod ymhell o'm cartref. Edwin oedd ei enw ef, ac Angelina y gelwid ei wraig, pwy bynnag o edmygwyr Goldsmith a'u bedyddiodd—byddai fy nhad yn sôn yn aml am Goldsmith. Aent o gwmpas gan werthu pinnau a thrwsio ambareli, a dywedai pawb mai dau syml, gwbl