Tudalen:Dyddgwaith.djvu/77

Gwirwyd y dudalen hon

wylaidd y gallasai yntau chwanegu "ac i'r ysbryd." Eto, y mae darllen a darllen. Dywedir fod y wasg Saesneg yn unig yn bwrw allan ryw dair mil o nofelau bob blwyddyn. Heb sôn dim am y llenyddiaeth helaeth a sgrifennir i esbonio llawer ohonynt a dangos i fyd synedig sut y bydd meddyliau eu hawduron yn gweithio. Nid yw'r Cymry mor hoff o ddarllen nofelau—nofelau Cymraeg, o leiaf. Eu ffordd hwy yw eu beirnadu, ar ôl darllen adolygiadau arnynt, yn nodi'r gwallau yn yr orgraff.

Byddis yn dywedyd weithiau am ambell un ei fod "wedi peidio â darllen ers blynyddoedd," gan fwriadu i hynny olygu ei fod wedi peidio â meddwl hefyd. Ond prin y mae'n canlyn bod darllen a meddwl yn gyfystyr bob amser. Cydymdeimlodd rhywun â dyn a gollodd ei olwg yn ei ddegfed flwydd a thrigain, ag yntau, fel y gwyddid, yn "ddarllenwr mawr." "O," meddai yntau, "nid rhaid i chwi ddim cydymdeimlo â mi am hynny. Bûm wrthi mor brysur yn darllen ar hyd f'oes fel na chefais ddim amser i feddwl nes fy mynd yn ddall." Trueni o beth bod yn rhaid i ambell un golli ei lygaid. cyn eu hagor, megis.