Tudalen:Dyddgwaith.djvu/85

Gwirwyd y dudalen hon

Fel y digwyddodd, bu'r darganfyddiad. hwnnw'n fath o dro yn fy mywyd. Nid wyf yn amau dim bellach na buasai deall sut i wybod yn weddol barod pa faint yw seithwaith naw ceiniog a thair ffyrling, dyweder, yn dro llawer mwy buddiol i mi. Sut bynnag, bob yn sillaf y darllenwn innau'r brydyddiaeth Saesneg allan o hyd-yn wir, cawn ddifyrrwch i mi fy hun wrth sbelio a thorri yn eu canol lawer o eiriau a adwaenwn eisoes ac y gallaswn eu dywedyd ar fy nghyfer heb eu sbelio o gwbl. Cyn ymadael â'r ysgol honno, yr oeddwn hefyd wedi darganfod y gallech, gyda gofal, dorri rhai geiriau ar eu canol, nes bod y meistr yn edrych yn graff arnoch, fel pe buasai'n amau bod rhyw ystyr yn y peth, ond o'r diwedd, penderfynu a wnâi, mae'n ddiau, nad oedd ystyr i ddim byd, yn yr ysgol honno, a chawn innau lonydd i ganlyn fy ffansi, dim ond i mi edrych yn sobr.

Ond yr oedd rhywbeth arall yn digwydd hefyd. Yr oedd yn syndod fel y cofiech ambell bennill telyn, weithiau pan fyddech yn llawen, yn amlach pan fyddech yn drist neu mewn trwbl. Yr wyf yn cofio syrthio i'r afon un tro a mynd adref a'm dillad yn wlyb diferol. Cefais yn fuan hamdden