Tudalen:Dyddgwaith.djvu/99

Gwirwyd y dudalen hon

UN o drychinebau addysg, o leiaf yng Nghymru, ryw hanner can mlynedd yn ôl oedd y dyb gyffredin nad oedd dim yn addysg ond a geffid mewn ysgolion. Yn yr ysgolion hynny, gan mwyaf, ni cheffid ond ychydig o Saesneg digon llymrig. Hyd yn oed yn yr ysgolion gramadeg a geid yma ac acw, er bwrw bod brith- ddysgu ychydig syniadau niwlog am reolau mydryddiaeth Ladin yn ddysg, ni chyfrifid gwybod rheolau mydryddiaeth Gymraeg, y fanylaf a'r gywreiniaf yn Ewrop efallai, yn ddysg o fath yn y byd.

A bwrw bod rhyw rinwedd arbennig ar fedru Groeg a Lladin, y mae'n eglur na thybiai'r Cymry a gafodd y cyfle i fod yn feistriaid arnynt ddim bod. y rhinwedd hwnnw yn werth ei ddwyn i gyrraedd pobl a ddibynnai ar y Gymraeg am eu diwylliant, canys ni wnaethant gymaint ag un llyfr Cymraeg at wasanaeth y rheiny. Dododd Charles o'r Bala lawer o eiriau Groeg (a Hebraeg o ran hynny) yn ei "Eiriadur," a thrawslythreniad ohonynt rhwng crymfachau. Drwy'r ddamwain honno y dysgodd un hogyn y llythrennau Groeg