Tudalen:Emynau a'u Hawduriaid.djvu/11

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD

I.

Teimlwn na allwn ymgadw rhag cofnodi yn ein Rhagymadrodd yr hyn, mewn rhan, a gofnodir gennym yn ein sylwadau ar Edmwnd Prys, er y gwyddom yr anghymeradwyir hynny gan ein beirniaid caredig ac angharedig.

Dywaid Morys Kyffin a ganlyn yn ei "Lythyr anerch at y Darllenydd Cristionogol," a ragflaena Diffyniad Ffydd Eglwys Loegr (Jewel),—"Gwaith rheidiol iawn fydde troi'r Psalmeu i gynghanedd gymraeg. Nid i gynghanedd Englyn, nag Owdl, na Chowydd, nag i fath yn y byd ar gerdd blethedig; oherwydd felly ni ellid byth troi na'r Psalmeu, na dim arall yn gywir. Eithr i'r fath fesur a thôn canghanedd ag fydd gymeradwy ymhôb gwlad, a ddiwygiwyd trwy dderbynniad discleirdeb yr Efengyl, ac fal y gwelir yn y Saesonaeg. Scotiaith, Frangaeg, iaith Germania, iaith Itali, a'r cyfryw; fel y gallo'r bobl ganu y gyd ar unwaith yn yr Eglwys; yr hyn beth fyddo ddifyrrwch a diddanwch nefawl iddynt yn y llan a chartref." (Gweler cyfrol W. Prichard Williams.)

Ymgymerth Edward Kyffin ag arallu rhai o'r Salmau mewn mesur rhydd. Cynganeddwyd yr holl Salmau gan William Myddleton (Gwilym Canoldref). Cyhoeddwyd ffrwyth llafur Edward Kyffin a William Myddleton gan Thomas Salsbri yn y flwyddyn 1603, eithr ni bu llafur y naill na'r llall o'r ddau wr gwlatgar o ddefnydd cyffredinol.

Dywedir i James Rhys Parry, Ewyas Lacy, Sir Henffordd, droi'r Salmau i fesur cân, ac anfon ohono'i gynhyrchion i'r Esgob Morgan a oedd y pryd hwnnw (1595-1601) yng nghadair Esgob Llandâf, a chyflwyno ohono yntau waith Parry i Edmwnd Prys.

Yn y flwyddyn 1621 cyhoeddwyd Salmau Cân Edmwnd Prys yn gydffurf â'r Llyfr Gweddi Gyffredin, a chyfrifir ei waith ef yn werthfawr hyd y dydd hwn. Gweler ei enw wrth ddwy salm-gân a deugain yn y casgliad hwn (1927). Ni leihaodd addysg helaethach na duwioldeb o liw gwahanol i dduwioldeb yr ail ganrif ar bymtheg odid ddim ar werth y salm-ganau hyn a genir gennym.

Prin, er ei holl ragoriaethau a'i wasanaeth y cyfrifwn ni Prys yn nosbarth ein gwir emynwyr, canys mynega emynydd ei weledigaethau a'i brofiadau ei hun tra mynega arallydd neu gyfieithydd, od erys yn arallydd neu gyfieithydd yn unig, yr hyn a welwyd ac a brofwyd gan arall neu eraill. Mawrhawn waith Prys; mawrhawn waith