Rowland Fychan, a gwrogwn i arallwyr a chyfieithwyr lawer, eithr nid anghofiwn mai trosglwyddo meddyliau a phrofiadau'r rhai a fu o'u blaen a wneir ganddynt.
Gŵr o'r un oes â Phrys ydoedd y Ficer Prichard, Llanymddyfri, awdur Canwyll y Cymry, eithr arall oedd ei ddawn ef, a dywaid,—
"Ni cheisiais ddim cywreinwaith, Ond mesur esmwyth perffaith, Hawdd ei ddysgu ar fyr o dro, Gan bawb a'i clywo deirgwaith."
Ni ddilynodd ef "ddyfnwaith enwog Salsbri," ond syrthiodd i'r eithaf arall, a defnyddiodd ieithwedd annestlus a gwerinaidd, a thra ychydig a genir o'i gyfansoddiadau ef. Nid oes emyn o'i eiddo yn y casgliad hwn.
O ran a wyddom ni, Thomas Baddy, y gweinidog Presbyteraidd, a weinidogaethai yn Ninbych, ydoedd y cyntaf i geisio cyflenwi'r diffyg emynau ymhlith yr Ymneilltuwyr yng Nghymru. Dywedwn hynny
heb anghofio emynau Morgan Llwyd. Yn 1703 cyhoeddodd Baddy Pasc y Cristion, sef ei gyfieithiad o waith y Parch. Thomas Doolittle, a chynhwysodd chwech emyn Sacramentaidd yn ei gyfrol fechan.
Yn 1705 cyhoeddodd y Parch. James Owen, Croesoswallt (Amwythig, yn ddiweddarach), Hymnau Scrythyrol. Yn 1714 cyhoeddodd Dafydd Lewis, Casnewydd—ar—wysg, ei Caniadau Nefol; sef Agoriad ar y Bennod gyntaf o Ganiadau Solomon ar fesur cerdd: ynghyd, A rhai Hymnau Ysprydol. Ni wyddom am un a fu byw o'i Hymnau, mwy nag y gwyddom am emynau o'r eiddo Baddy ac Owen a'u goroesoedd hwythau.
Daeth Baddy i'r maes drachefn â'i Caniad Solomon wedi ei drefnu ar fesur i'w ganu. Cynhwysai'r argraffiad hefyd un ar ddeg o Hymnau'r awdur. Argraffwyd y llyfryn hwn drachefn yn 1740, gyda chwanegiadau gan eraill o chwech emyn, tri o'r chwech yn waith Griffith Jones; un o waith Morgan Jones; un o waith Evan Rees, ac un o waith Daniel Rowland. Nid yw enw Griffith Jones wrth y tri emyn a briodolir iddo, eithr y mae'n hysbys mai ei eiddo ef ydynt. Yn yr un flwyddyn cyhoeddwyd argraffiad arall o waith Dafydd Lewis. Cyhoeddwyd hefyd Llyfr o Hymnau o waith amryw awdwyr gan Nicholas Thomas, Caerfyrddin, a gynhwysai dri emyn ar ddeg. Gweler ein sylwadau ar Howel Harris.
Nodir yn Y Traethodydd (1870, td. 65), mewn erthygl gan Morris Davies, gyhoeddi tri llyfryn o emynau yn 1741 dan y teitl Hymnau Duwiol. Yn y flwyddyn ganlynol (1742) cafwyd Rhai Hymnau Duwiol o waith Edmund Williams, offeiriad ieuanc a fu