Tudalen:Emynau a'u Hawduriaid.djvu/13

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

farw yn bump ar hugain oed. Yn yr un flwyddyn cad Sail, Dibenion, A Rheolau'r Societies Neu'r Cyfarfodydd Neillduol, At y Rhai y Chwanegwyd Rhai Hymne, gan Wyr o Eglwys Loegr, sef Howel Harris, Morgan Jones, Daniel Rowland a Herbert Jenkins.

Yn 1743 cyhoeddodd Griffith Jones Crynodeb o Salmau Cân: sef, rhai Salmau Detholedig yn gyfain, a'r Rhannau mwyaf buddiol ac eglur eu Hystyriaeth o Salmau eraill. O Salmau Cân Edmwnd Prys y detholwyd. Nid yw enw Griffith Jones wrth y Crynodeb hwn, ond y mae ei enw wrth yr ailargraffiad a gafwyd yn 1774. Yn yr un flwyddyn (1743) argraffwyd y Traethawd ar Farw i'r Ddeddf a Byw i Dduw, cyfieithiad Daniel Rowland o waith Erskine. Chwanegodd y cyfieithydd chwech o'i emynau ei hun at werth y llyfr. Awn heibio i Hymnau Duwiol a Rhai Hymnau Duwiol Daniel Rowland, a'i gyfraniadau eraill i emynyddiaeth. Gweler ein sylwadau ar y gŵr mawr hwn, ac yn arbennig darllener cyfrol y Parch. D. Odwyn Jones, M.A., ar Daniel Rowland.

Ni allwn ymatal rhag nodi cyfrol fechan a gyhoeddwyd gan Griffith Jones yn 1745 ar Cerdd Sion: sef Traethawd ynghylch Moli Duw Mewn Salmau, a Hymnau, ac Odlau Ysbrydol, &c. "Y Ddyledswydd fwyaf nefolaidd, ac etto a gyflawnir waethaf ac a esgeulusir fwyaf, o holl Ddyledswyddau CREFYDD." Dyry'r awdur "amryw ystyriaethau i'n perswadio, ac amryw hyfforddiadau i'n cyfarwyddo, i ganu Mawl er Parch i Dduw, a'n lles ein hunain." Nid oes un emyn yn y gyfrol, ond y mae'n sicr gennym i'r neb a'i darllenodd wneuthur defnydd rhagorach o'r emynau a feddent wedi darllen gwaith y gŵr da.

Cyraeddasom at Williams o Bant—y—celyn. Dianghenraid yw ymhelaethu ar ei wasanaeth ef. Cyfododd to o emynwyr yn ei gysgod, megis Dafydd Jones (Cayo), Morgan Rhys, John Thomas (Rhaeadr), Dafydd William, Thomas William, John Williams (St. Athan), etc. Pwy, a dyfodd yn emynydd, na bu yn ei gysgod ef?

II.

Ymgais seml yw'n hail adran o'n Rhagymadrodd i ddangos y modd y ceisiodd y ddwy Eglwys Fethodistaidd gynorthwyo'r eglwysi a berthynai iddynt, a'u cynulleidfaoedd, i ddyrchafu a moliannu Duw pob gras.

1. Y Methodistiaid Calfinaidd.

Canfu Robert Jones, Rhos Lan, yr angenrheidrwydd am gasgliad o emynau, canys yr oedd yr emynau a genid yn y cynulleidfa-