oedd ar wasgar yng ngwahanol lyfrynnau Williams, Pant-y-celyn, a llyfrynnau Morgan Rhys ac eraill. Ac od oedd y llyfrynnau hyn yng nghartrefi lliaws o aelodau'r cynulleidfaoedd, ni chludid hwynt i'r cyfarfodydd preifat a chyhoedd rhag lluosoced oeddynt. Cenid penillion bob yn ddwy linell; hynny yw, adroddid, neu ynteu darllenid dwy linell gan y pregethwr neu rywun arall, ac yna fe'u cenid. Parhawyd gwneuthur hynny hyd yn oed wedi i amryw garedigion wneuthur casgliadau o emynau; eithr dechreuwyd y dull hwnnw oherwydd prinder llyfrau a gynhwysai emynau.
Gwelir yn ein sylwadau ar "G." gyhoeddi o Robert Jones ei argraffiad cyntaf o Grawnsypiau Canaan yn 1795. Chwanegwyd at gynnwys y casgliad hwn yn 1805, a gwnaed cyfnewidiadau yn yr argraffiadau dilynol, trwy ollwng i golli a chwanegu, eithr nid ar awdurdod Cymdeithasfa yr ymgymerth ef â'r gwaith. Nid ar awdurdod Cymdeithasfa y cyhoeddodd Mr. Charles ei gasgliad yntau yn 1806, na Thomas Jones, Dinbych, ei emynau ei hun yn 1814.
Cyhoeddodd John Williams, Pant-y-celyn, holl emynau ei dad yn 1811. Dywaid ef wneuthur ohono hynny "ar ddeisyfiad amrywiol o gyfeillion crefyddol, ac ar ddymuniad ASSOSIASWN Y METHOD— ISTIAID CALFINAIDD, cynnulledig yn y Deheudir."
Nid oedd awdurdod Cymdeithasfa wrth gefn cyfeillion Llundain. pan gyhoeddwyd ganddynt yn 1816, Pigion o Hymnau, I gael eu harferyd gan y Cynnulleidfaoedd Cymreig yn Wilderness-Row, Llundain, Deptford, ac Woolwich, mwy nag oedd ei hawdurdod gan gasglyddion yng Nghaerfyrddin yn 1823 ac 1824. Nid ar ei hawdurdod hi y cychwynnodd Morris Davies wneuthur ei gasgliad yntau yn 1832, ond cymeradwyodd y Gymdeithasfa y casgliad wedi iddo ymddangos. Cyffelyb ydoedd Roger Edwards yn ei anturiaeth yntau pan gyhoeddodd ei Salmydd Cymreig yn 1840, eithr cymhellodd y Gymdeithasfa ei ailargraffiad (1849), yr hyn a roddes galon iddo i gyhoeddi casgliadau cyflawnach yn ddilynol. Ar ei gyfrifoldeb ei hun y cyhoeddodd John Mills ei Salmydd Eglwysig yn 1847 ac 1856, a'r Cerddor Eglwysig (mewn undeb â Richard Mills).
Ar awdurdod Cyfarfod Misol Liverpool y cyhoeddodd Richard a Joseph Williams eu casgliad hwy yn 1840, ond gwnaethpwyd Casgliad o Hymnau at wasanaeth y Trefnyddion Calfinaidd yn y Deau yn 1841 ar awdurdod y Gymdeithasfa yn y Deau. Hyhi hefyd a awdurdododd yr argraffiadau a ddilynodd o'r un Llyfr Hymnau.