Tudalen:Emynau a'u Hawduriaid.djvu/15

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yng Nghymanfa Gyffredinol gyntaf y Methodistiaid Calfinaidd (Abertawy, Mai 3-5, 1864), enwyd cyfeisteddfod i ddarpar un Llyfr Hymnau at wasanaeth yr holl Gyfundeb ac i fod yn feddiant iddo. Cyhoeddwyd y casgliad hwn yn 1869. O'r flwyddyn honno ymlaen defnyddid yr un Llyfr Hymnau yn holl eglwysi Cymraeg y Corff yn y Deau, yn y Gogledd, ac yn Lloegr. Yn 1897 cyhoeddodd y Gymanfa Gyffredinol Lyfr o Hymnau a Thonau (yn gystal â Llyfr Hymnau). Hyd 1897 dibynnid (er 1859) ar Lyfr Tonau Ieuan Gwyllt am y tonau.

Cytunodd y Gymdeithasfa yn y Deau ac yn y Gogledd yn 1923 a 1924 ag awgrym y ddau Gomisiwn, a eisteddai y naill yn y Deau a'r llall yn y Gogledd, sef "Gan fod y ddau Gyfundeb (Cyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd a Chyfundeb y Methodistiaid Wesleyaidd) ar hyn o bryd yn ystyried y mater o gyhoeddi pob un ei Lyfr Emynau, barnwn mai buddiol fyddai iddynt ystyried y priodoldeb o gael un Llyfr Emynau rhwng y ddau." Cytunodd y Methodistiaid Wesleyaidd. Penododd y ddau Gyfundeb frodyr i ddwyn hynny i ben. Ffrwyth eu cydymgynghoriad, eu gwybodaeth a'u doethineb hwynt ydyw casgliad 1927, a ddefnyddir yn eglwysi'r ddau Gyfundeb.

2. Y Methodistiaid Wesleyaidd.

Gweler ein sylwadau ar "J.Hu.". Yn y sylwadau hyn nodwn. mai'r Parch. John Hughes, Aberhonddu, a wnaeth y casgliad cyntaf o emynau Cymraeg i'w Eglwys yng Nghymru, yn 1802. Adweinir y casgliad hwnnw wrth y teitl Diferion y Cyssegr (neu Diferion o'r Cyssegr). Cafwyd argraffiadau eraill o'r gwaith hwn (gyda chwanegiadau) yn 1804, 1807, 1809 ac 1812. Gwyddom i'r Parchn. John Bryan ac E. Jones gyhoeddi casgliad o'r eiddynt hwythau yn 1805. Ystyrient hwy yr eiddynt "yn ychwanegiad at yr eiddo ef" (John Hughes). Gweler eu Rhagymadrodd.

Yn 1817 gwnaed Casgliad o Hymnau . . . i'w harferyd gan y bobl a elwir Methodistiaid Wesleyaidd. Golygwyd y gwaith gan y Parchn. David Rogers, John Williams (1af) a William Jones. Cafwyd argraffiadau o'r casgliad hwn, gyda chyfnewidiadau ynddo, yn 1823, 1825, 1826 ac 1833. Golygwyd argraffiad 1823 gan y Parchn. W. Davies (1af), J. Williams (1af) a William Jones. Golygwyd argraffiadau 1825 ac 1826 gan y Parch. William Evans, ac argraffiad 1833 gan y Parch. E. Jones (3ydd).

Yn 1837 cyhoeddwyd Casgliad o Hymnau . . . i'w harfer gan y bobl a elwir Methodistiaid Wesleyaidd. Golygwyd ef gan y Parch. T. Jones. Cynnwys y casgliad hwn dair rhan. Gelwir yr ail ran