Tudalen:Emynau a'u Hawduriaid.djvu/16

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn "Amrywiaeth," a'r drydedd yn "Attodiad." Cynnwys yr "Amrywiaeth" Hymnau 416-481, a'r "Attodiad" Hymnau 482-674.

Yn 1845 cyhoeddodd y Methodistiaid Wesleyaidd gasgliad arall a olygwyd gan y Parchn. David Evans, Isaac Jenkins ac eraill. Parhawyd i ddefnyddio'r casgliad hwn hyd 1900, pan gafwyd "Argraffiad Dywigiedig." Cydsyniodd y Cyfundeb yng Nghymru â chais y Methodistiaid Calfinaidd. Ymunwyd i wneuthur un casgliad o emynau i'r ddau Gyfundeb. Gweithredodd cynrychiolwyr y ddwy Eglwys i ddethol emynau, a hefyd i ddethol tonau ac adrannau eraill casgliad 1927.

Ni chanodd y cyd-bwyllgor un emyn, eithr gallasent ganu aralliad Edmwnd Prys o Salm 133.

"Wele, fod brodyr yn byw 'nghyd,
Mor dda, mor hyfryd ydoedd!
Tebyg i olew o fawr werth
Mor brydferth ar y gwisgoedd."