Tudalen:Emynau a'u Hawduriaid.djvu/18

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Detholodd Roger Edwards y pennill i'w ailargraffiad (1849) o'r Salmydd Cymreig ac i'w argraffiadau dilynol, â'i briodoli i Arthur Evans, eithr An." yw'r awdur yn Hosanna (1860) Morris Davies, ac yng nghasgliad y Gymanfa Gyffredinol yn 1869, ond yng nghasgl— iadau 1897 a 1927 fe'i priodolir i Arthur Evans. Nid oes, bellach, un amheuaeth pwy ydyw awdur y pennill hwn a'n hatgoffa o 1 Timotheus vi. 12, 19; Mathew xxv. 1—8, a Mathew vii. 24—27. Gweler ein sylwadau ar "J.E."


Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Ann Griffiths
ar Wicipedia

A.G.—Mrs. Ann Griffiths (Dolwar Fach, Llanfihangel yng Ngwynfa, Sir Drefaldwyn, 1776—1805, Dolwar Fach).

"O ran ei dynsawd, yr oedd o gyfansoddiad tyner, o wynepryd gwyn a gwridog, talcen lled uchel, gwallt tywyll, yn dalach o gorffolaeth na'r cyffredin o ferched, llygaid siriol ar don y croen, ac o olwg lled fawreddog, ac er hynny yn dra hawdd nesau ati mewn cyfeillach Yr oedd wedi ei chynysgaeddu â chynheddfau cryfion; ond lled wyllt ac ysgafn ydoedd ei hieuenctid. Hoffai ddawns, ac arferai ei doniau i siarad yn lled drahaus am grefydd a chrefyddwyr o Ymneilltuwyr. . . aeth i Lanfyllin mewn bwriad i ddawnsio . . . Wedi iddi gyrhaeddid i Lanfyllin, cyfarfu â merch a fuasai ryw amser yn ôl yn forwyn yn ei theulu; cymhellodd honno hi i ddyfod i wrandaw pregeth i gapel yr Annibynwyr, gan ddywedyd wrthi fod yno ŵr dieithr yn pregethu. Hi gydsyniodd â'r cais, a'r diweddar Barchedig Benjamin Jones, Pwllheli, oedd yno'n pregethu. Effeithiodd y bregeth ar Ann yn lled ddwys, nes y penderfynodd ymofyn am grefydd, yn lle dilyn gwagedd." (John Hughes, Pont Robert, yn Y Traethodydd, 1846, td. 421,—2.)

Gŵr o Lanwinio, Sir Gaerfyrddin, oedd y pregethwr; awdur Athrawiaeth y Drindod mewn Tair Pregeth: I. Ar Berson Crist yr Immanuel. II. Ar Bersonoliaeth a Duwdod yr Ysbryd Glân. III. Ar Wahaniaethol Bersonau y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glân: Ynghyd ag atebion i rai Gwrthddadleuon. Cyhoeddodd hefyd Ffynhonnau Iachawdwriaeth; neu Amddiffyniad o Athrawiaethau Gras: sef byrr atebiad i Lyfr a elwir Traethiad ar Etholedigaeth a Gwrthodedigaeth; ac Helaethder y Prynedigaeth Cristnogol. Gweinidogaethodd ym Mhencader ac yn Rhos-y-meirch cyn ei ddyfod i Benlan, Pwllheli.

Wrth wrando pregeth gan Ishmael Jones, Llandinam, y mae'n debyg, gorchfygwyd rhagfarn Ann Griffiths at y Methodistiaid, a dyfnhawyd ei hargyhoeddiadau o bechadurusrwydd ei chyflwr. "Yr oedd awdurdod ac ysbrydolrwydd y ddeddf yn ymaflyd mor rymus yn ei meddwl hyd oni bu'n ymdreiglo amryw weithiau ar hyd y ffordd wrth fyned adref o'r Bont o wrandaw y pregethau, gan