ddychrynfeydd a thrallod ei meddwl." (John Hughes, ibid.) Ond yn ddiweddarach "cafodd y fath amlygiadau ysbrydol o ogoniant Person Crist, gwerth ei aberth, anchwiliadwy olud ei ras, a chyflawnder yr iachawdwriaeth gogyfer â'r pennaf o bechaduriaid, ag a barai iddi dorri allan mewn gorfoledd cyhoeddus ar brydiau dros yshaid ei hoes grefyddol. . . . Un hynod ydoedd, o ran cynheddfau eang a chryfion, hynod o ran gwybodaeth ysgrythyrol a phrofiadau ysbrydol; a hynod o ran serchogrwydd, a sirioldeb, a sancteiddrwydd buchedd yr oedd yn goron o harddwch i'w phroffes. . . . Un hynod ydoedd mewn diwydrwydd i weddïau dirgel, a hynod ei hymdrech— iadau ynddynt. Byddai ar brydiau yn cael y fath ymweliadau grymus yn ei hystafell ddirgel, hyd oni byddai yn torri allan mewn gorfoledd uchel, fel y gellid ei chlywed o ystafelloedd y tŷ, ac weithiau clywid ei bloeddiadau gorfoleddus led amryw gaeau oddi wrth y tŷ... dechreuodd gyfansoddi penillion a hymnau, a phryd bynnag y byddai rhywbeth neilltuol ar ei meddwl, deuai allan yn bennill o hymn. Nid ysgrifennodd hi ond ychydig ohonynt, ond adroddai hwynt i'r forwyn [Ruth, a ddaeth wedi hynny yn wraig John Hughes], a dymunai arni eu canu, i edrych a ddeuent ar y tonau; ac oddi ar ei chof hi y daeth y nifer fwyaf ohonynt i wybod— aeth gyhoeddus. Ysgrifennydd y cofiant hwn [John Hughes] a'u hysgrifennodd yn ôl adroddiad R[uth] H[ughes] ohonynt i'r diweddar Barch. Thomas Charles o'r Bala, i'w hargraffu, er bod rhai ohonynt wedi myned yn gyhoeddus o'r blaen, trwy fod rhai o'r pregethwyr a ddeuai i Ddolwar Fechan i bregethu wedi eu dysgu. Y mae ei hymnau a'i llythyrau yn ddrych tra eglur o ansawdd ysbrydol ei chrefydd." (John Hughes, ibid.)
Trawodd Syr Owen M. Edwards ar ysgrif-lyfrau John Hughes, a oedd ym meddiant y Parch. Edward Griffiths, Meifod, a chyhoeddodd eu cynnwys yng Nghyfres y Fil. Rhoddes Syr Owen yr emynau inni yn y ffurf y cyflwynwyd hwynt i Mr. Charles, a gwelir i gasgliad 1927 ddychwelyd at y ffurf honno.
Pa fodd i esbonio'r cyfnewidiadau a wnaed ar emynau Ann Griffiths? Ymddengys bod Robert Jones, Rhos Lan, ar fin cyhoeddi ailargraffiad o'i Grawnsypiau Canaan trwy'r un wasg ag a wasanaethai ar Mr. Charles. Cyhoeddodd Mr. Charles ei argraffiad cyntaf o Hymnau o Fawl i Dduw ac i'r Oen' yn 1806, eithr cyhoeddodd Robert Jones ei ailargraffiad o'r Grawnsypiau yn 1805. Damcaniaeth y diweddar Athro D. Morgan Lewis yw i Mr. Charles gyflwyno'r hyn a dderbyniasai gan John Hughes i Robert Jones, ac mai ef (a gyfnewidiasai gymaint ar emynau awduriaid eraill) a wnaeth y cyfnewidiadau ar yr emynau hyn hefyd. (Gweler ysgrif Mr. Lewis yn Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd.