Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/102

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ab Cadifor Dinawol ab Gwynn ab Aelaw ab Alser ab Tudwal ab Rhodri Mawr.

GWEITHFOED FAWR, Tywysog Ceredigion, ac Arglwydd Cibwyr, oedd fab Eunydd ab Cadifor ab Peredur Beisrudd. Dywed y Triodd am dano, — "Tri Hualogion Teyrnedd Ynys Prydain: Morgan Mwynfawr, o Forganwg; Elystan Glodrydd, rhwng Gwy a Hafren ; a Gweithfoed Fawr, Brenin Ceredigion, o achos y gwisgynt hualau yn ol y gwnelent brif deyrnedd Ynys Prydain, ac nid taleithiau, sef Coronau."Bu iddo tua deuddeg o blant. Dilynodd Cadifor ef ym mreniniaeth Ceredigion. Disgynai Philip ab Ifor, Arglwydd Isgoed, o hono, yr hwn a briododd Catherin, merch y Tywysog Llywelyn ab Gruffydd. Hana teulu Gogerddan o hono. Blodeuodd yn yr unfed canrif ar ddeg.

GWENLLIAN. ferch Rhys ab Gruffydd, ydoedd wraig yr enwog Ednyfed Fychan, Penmynydd Mon, o'r hon y deilliodd y Tuduriaid, sef teulu breninol Harri VII. Dywed y Brut fod Gwenllian y rian decaf trwy'r gwledydd.

GWENOG, santes yn y seithfed canrif i'r hon y mae Eglwys Llanwenog wedi ei chyflwyno. Cedwid ei gwyl Ionawr 3.

GWGAN AB MORYDD ydoedd fab Morydd, neu Meirig, Brenin Ceredigion. Boddodd yn yr afon Llychwyr, wrth ymlid y Paganiaid Duon, sef y Daeniaid, yn y flwyddyn 870. Aeth breniniaeth Aberteifi yn etifeddiaeth i'w chwaer Angharad, yr hon oedd yn briod â Rhodri Mawr, Tywysog Gwynedd.

GWRTHELI, neu GARTHELI AB CAW, yn y chwechfed canrif, y sant a sylfaenodd Gapel Gartheli, ym mhlwyf Llanddewi Brefi. Yr oedd y sant hwn yn sefyll yn uchel iawn yn y cynoesoedd.

" Gwyrthfawr fu'r gwr mawr i mi,
Gwyrthiau alarch Gwrtheli."
D. AB IEUAN DDU i D. ab Tomos
o Is Aeron.

GWYNEN, santes, i'r hon y cyflwynwyd Eglwys Llanwnen.