ac yn methu & chael ynddynt ddim yn ymylu ar Ariaeth. Yr ydym yn gweled ei enw yn danysgrifiwr am y Fuchedd Gristionogol yn 1750,(1) ac yn gweled ei fod pryd byny yn Abertawy. Y mae hefyd yn danysgrifiwr am 24 cyfargraff o Hymnau y Parch. Jenkin Jones, Llwyn Rhyd Owain. Y mae o'n blaen gyfargraff o'r llyfr hwnw, ac arno yn ysgrifenedig, “Daniel David, his book, gift of Mr. Solomon Harris, Swansea, in the year 1783." Y derbyniwr oedd yr ysgrifenydd, pwy bynag oedd.
- (1)Rhagfyr 17, 1750, yw dyddiad rhaglith y Fuchedd Gristionogol; ond y mae yn amlwg fod enwau y tanysgrifwyr yn cael eu derbyn wedi hyny.
HARRIES, THOMAS, a aned yn Aberteifi, Chwefror 5,- 1790. Ymaelododd gyda'r Bedyddwyr pan yn 16 mlwydd oed. Cafodd fanteision rhieni crefyddol, ac ysgol dda pan Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1814. Aeth i Athrofa y Fenni yn y flwyddyn 1816. Cafodd ei urddo yn Rhaglan, Gwent. Gweithiodd yn y lle annuwiol hwnw gyda'i holl egni. Cadwai ysgol bum diwrnod o'r wythnos, a phregethai fynychaf bob nos, a thair gwaith bob Sul. Llwyddodd yno yn fawr. Cyfnewidiodd a'i frawd John, yr hwn oodd ar y pryd yn Fawnhope, sir Henffordd. Bu yno yn ddiwyd a llwyddiannus am ddeng mlynedd. Bu farw Ebrill 26, 1843, yn 53 mlwydd oed, gan adael ar ei ol air da ym mhob modd.
HERBERT, DAVID, G.C., diweddar beriglor Llansantffraid, a anwyd yn y Rhiwbren, ym mhlwyf Llanarth. Enwau ei rieni oedd William a Judith Herbert. Y mae yr Herbertiaid yn hanu o brif deuluoedd ein gwlad, trwy hen deuluoedd hynafol Hafod Ychtryd, Rhaglan, a Phenfro. Cafodd Mr Herbert fanteision dysg yn ieuanc, ac aeth i Goleg Wadham, Rhydychain, lle y cafodd ei raddio yn G.C. Cafodd urddau eglwysig, Ionawr 25, 1791, gan John, Esgob Rochester, yn Eglwys Golegawl Sant Pedr. Yr oedd ei guradiaeth naill ai yn Essecs neu Sussecs. Yr oedd yno mewn parch mawr gan bawb a'i hadwaenai; ac wedi llafurio yno am flynyddau, dychwelodd i Gymru. Ar ei ddychweliad i Geredigion, cafodd guradiaeth Dyhewyd. Symmudodd wedi hyny i guradiaeth Llansantffraid; ac ar