Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/107

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

96 HUGHES, JAMES, gweinidog y Trefnyddion Calfinaidd yn Llundain, a anwyd ym mhlwyf Ciliau Aeron, yn agos i fynydd y Trichrug, oddi wrth yr hwn y cymmerodd ei enw llenyddol, Iago Trichrug. Treuliodd ei ieuenctyd yn ei ardal enedigol; ond pan yn un ar hugain oed, efe a aeth i Lundain, lle y treuliodd ei oes. Gweithiodd yn Llong-orsaf Deptford hyd nes yr oedd yn bump a deugain oed. Perthynai i gyfundeb y Trefnyddion pan adawodd Gymru; ond aeth wedi hyny yn ddyn gwyllt ac anystyriol. Ond yn y flwyddyn 1806, yn ystod arosiad y Parch. John Elias yn gweinidogaethu yn y Brifddinas, dychwelodd yr afradlawn tua thy ei Dad. Yn 1810, efe a ddechreuodd bregethu; parhaodd i wneyd hyny hyd ddiwedd ei oes gyda chymmeradwyaeth fawr. Yn 1816, efe a gafodd ei neillduo i gyflawn waith y weinidogaeth yn y gymmanfa a gynnelid yn Llangeitho. Bu yn gweinidogaethu wedi hyny am wyth ar hugain o flynyddau, sef hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymmerodd le yn ei dy ei hun, yn Rotherhithe, Llundain, Tachwedd 2, 1844, yn 65 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn Bunhill Fields. Yr oedd Mr. Hughes yn dduwinydd dwfn, ac yn bregethwr rhagorol. Y mae ei enw yn uchel fel ysgrifenydd, ac yn neillduol fel esboniwr. Dechreuodd yr Esboniad ar y Testament Newydd yn y flwyddyn 1829, a gorpbenodd ef yn 1835, mewn dwy gyfrol ddeuddeg-plyg. Tyniad allan yw o weithiau Poole, Scott, Guyse, Doddridge, Henry, ac ereill. Cyhoeddwyd ef yn y Wyddgrug. Daeth allan ail argraffiad o hono o Dreffynnon yn 1845. Yr oedd wedi myned ym mlaen a'r Hen Destament can belled a'r xxxv. o Ieremïah ar yr un dull; ond gosododd angeu derfyn ar ei lafur. Gorphenwyd y gwaith gan y Parch. R. Edwards, Wyddgrug. Yr oedd Mr. Hughes yn ysgrifenydd medrus a manwl, ac yn llenor enwog. Yr oedd hefyd yn fardd rhagorol. Cyfansoddodd lawer o ddarnau rhagorol, a chyfieithodd hefyd rai darnau gwychion gyda llawer o fedr. Ystyrir ei gyfieithad o Gray’s “Bard,” a Blair's “Grave,” yn gyfuwch â'r rhai gwreiddiol. Ysgrifenodd lawer i'r Seren Gomer, yn farddoniaeth a rhyddiaith. Yr oedd yn dra adnabyddus â'r Dr. Pughe. Bu dadl rhyngddo a'r Dr., ar fesur cerdd, am