o bobl, ac yr oedd yn ddiflino yn ei ymweliadau & hwynt. Tra yn y lle hwn, teithiodd lawer dros y Feibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor; a pharhaodd gyda llawer o egni i weithio drosti hyd derfyn ei oos. Yn y cyfarfod cyntaf o'r gymdeithas, a gynnaliwyd yn Aberystwyth, ar ol ei farwolaeth, talwyd tynged i'w goffadwriaeth gan y Dr. Phillips, yr hwn sydd wedi bod am flynyddau lawer yn oruchwyliwr ffyddlawn i'r sefydliad. Dywedai, "Drwg genyf fod eich cymdeithas leol wedi dyoddef colled ddirfawr er pan gyferchais chwi o'r lle hwn ddwy flynedd yn ol. Dechreuodd y diweddar a'r hybarch Archddiacon Hughes ei lafur bendigedig dros y gymdeithas pan yn offeiriad ieuanc yn Lloegr. Mewn amser pan nad oedd y sefydliad yn cael ei gymmeradwyo mor gyffredinol ag yw yn y dyddiau presennol, gwnaeth efe ei chynnorthwyo trwy bregethau o'r areithfaoedd, areithiau oddi ar yr esgynloriau, yn gystal a rhoddion o'i logell. Cofia rhai am y dull bywiog, difrifol, a threiddgar yr anerchodd ni yn y cyfarfod cyhoeddus a gynnaliwyd yn y lle hwn. Ei eiriau pwysig a hynaws ar yr achlysur hwnw oeddynt debyg i belydrau nawsaidd yr haul ymadawedig. Yr haul hwnw i ni yn wir sydd wedi machludo; ond dysgleiria eto yn fwy mewn awyrgylch arall, a mwy dysglaer.” Ond pan ydoedd fel hyn yn ymdrechu yn ddyfal a dedwydd yng nghyfiawniad ei ddyledswyddau sanctaidd yn Doddington, syrthiodd cwmwl dudew ar ei fywyd teuluaidd; collodd ei wraig ar ol cystudd byr, gan adael chwech o blant bychain ar ei hol, nad oedd yr henaf ond tuag wyth mlwydd ood. Yn fuan wedi'r amddifadrwydd torcalonus hwn, cafodd berigloriaeth Aberystwyth; ac ar yr un amser cafodd guradiaeth Llanbadarn Fawr gan y diweddar Barch. R. Evans. Wedi dychwelyd i Gymru, ac wedi cael y fath faes helaeth i'w ddefnyddioldeb, parhaodd i ddangos yr unrhyw ymdrech ddiflino, yr unrhyw frwdfrydedd gwresog, a'r unrhyw eiddigedd duwiol yng ngwasanaeth yr Hwn a'i galwodd i'r fath waith goruchel a sanctaidd o ennill eneidiau at Grist. Ei ofal blaenaf oedd adeiladu Eglwys newydd yn Aberystwyth, am fod yr hen un yn hollol annigonol at wasanaeth y dref, yr hon oedd yn cynnyddu yn gyflym mewn
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/109
Prawfddarllenwyd y dudalen hon