Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/11

Gwirwyd y dudalen hon

Enwogion siroedd ereill yw y Parchedigion Eliezer Williams, Llanbedr; B. Evans, Drewen; Dr. Phillips, Neuadd Lwyd; Eben. Richard, Azariah Shadrach, ac amryw ereill; gan hyny anghyfiawnder fyddai eu gosod yma. Mewn ammheuaeth rhoddasom i mewn D. Williams, awdwr History of Monmouthshire, &c., ar awdurdod Bibliotheca Britannica gan Dr. R. Watt, 1824, cyf. i., tud. 968; Cyclopopdia Bibliographica, gan James Darling, 1854, cyf. ii., tud. 3212; Beeton's Dictionary of Universal Biography tud. 1095; Chambers's Book of Days cyf. i., tud. 826 — 7 (1864); Enwogion Cymru; Traethodydd 1855, tud. 325: ond nid ydym wedi llwyddo i gael dim o'i hanes yn ardal Aberteifi a Llechryd; a dywed Cadben Morris mai yn agos i Gaerdydd y cafodd ei eni; ac y mae lle i gredu mai camgymmeryd Cardigan yn lle Cardiff a wnaed, gan y dywedir ym Morganwg mai yn agos i Watford y cafodd ei eni.

Diolchwn yn wresog i Reithor parchus Llangeitho ac ereill am eu cefnogaeth i ddyfod â'r gwaith trwy'r wasg.

Buom dan orfod talfyru llawer o'n sylwadau ar Ddafydd ab Gwilym, ac amryw ereill, o herwydd y draul.

Llangeitho, Alban Hefin, 1868.