Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/112

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Meirig; a'i urddo yn gurad i'w ewythr, y Parch. D. Hughes, Lledrod. Gwasanaethodd Lledrod a Llanwdws fel curad am rai blynyddau; ac wedi hyny cafodd berigloriaeth Llanwnws. Bu yn gweinidogaethu yn Llanwnwg am 44 o Blynyddau. Ei briod oedd Frances, merch ieuengaf --- Morice, Ysw., Carog. Bu iddynt chwech o blant - tri mab a thair merch. Priododd ei ferch henaf a'r Parch. John Sinnet, person Bangor ar Deifi; a merch arall a'r Parch. John Williams, Dinas, Dyfed. Preswyliai yn ei le ei hun, Brynmyheryn. Bu yn llwyddiannus rhyfeddol yn ei weinidogaeth. Yr oedd Eglwys Llanwnws yn cynnwys o bedwar i bump cant o gymmunwyr. Fel cydwladwr, yr oedd yn barchus iawn gan bawb. Bu farw Awst 14, 1855, yn 68 mlwydd oed.

“ Oer Frynmyheryn! i'r fron mae hiraeth,
Ac erfawr alar geir o'i farwolaeth;
Dy wiw Hughes enwog, da ei wasanaeth,
Yn lles i'w deulu a llys y dalaeth;
Digoll ei weinidogaeth--i'r bobloedd,
A phur ryw ydoedd ei offeiriadaeth.'
IOAN MYNYW.


HUGHES, WILLIAM, A.C., diweddar beriglor Llanddewi Aberarth, a aned yn y Wern, Llanarth, Ebrill 6, 1810. Yr oedd ei dad yn beriglor Ciliau Aeron. Bu yn derbyn addysg yn Llanbedr, ac wedi hyny yng Nghaergrawnt. Aeth i'r Brifysgol ym Medi, 1829, a chafodd ei raddio yn A.C. yma Mai, 1833. Cafodd ei urddo yn ddiacon yn y flwyddyn hono; ac yn y flwyddyn nesaf yn offeiriad. Cafodd fywoliaeth Ciliau Aeron yn 1836; a chafodd ei drwyddedu i guradiaeth barhäus Llanddewi Aberarth yn 1847. Rhoddodd y gyntaf i fyny yn 1862, ond parhaodd i wasanaethu yr olaf hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymmerodd le Mawrth 31, 1867. Yr oedd yn ddirprwyad, ac hefyd yn ddeon gwladol Uwch Is Aeron. Wrth edrych ar Mr. Hughes ar bob golwg, yr oedd yn un o rai rhagorol y ddaiar. Fel cydwladwr, yr oedd yn gall, doeth, boneddigaidd, elusengar, ac haelionus - yn barchus iawn gan wreng a bonedd. Fel gweinidog, yr oedd yn bregethwr rhagorol, ac yn ymwelydd dyfal a'i blwyfolion. Cyfrifid ef yn un o