Maent wedi darfod yn Nyffryn Aeron fel tirfeddiannwyr. Ymddengys mai y tirfeddiannydd olaf oedd Miss Sarah Lloyd, Cilrhyg, yr hon a lofruddiwyd yn nechreu yr oes hon.
IFOR, Arglwydd Isgoed, oedd bendefig enwog yn rhan isaf y sir, yn amser Llywelyn ab Gruffydd. Cymmerodd ran helaeth yn helyntion y wlad ar y pryd; a phriododd Phylyb ei fab â merch y Tywysog Llywelyn.
IOAN, Archiagon Llanbadarn Fawr, yr hwn am ei fawredd mewn crefydd a myfyr rhinweddol a farnwyd yn deilwng o gael ei santresu yn y flwyddyn 1136.
IOAN AB SULIEN, a elwid gan yr ysgrifenwyr Lladinaidd yn.Iohannes Sulgenus, oedd fab yr enwog Sulien Ddoeth, Esgob. Ty Ddewi, yr hwn fu farw yn y flwyddyn 1070. Cafodd ei ddwyn i fyny gan ei dad yng Nghôr Llanbadarn Fawr. “Nid oes ond ychydig ar glawr perthynol i'r bardd hwn; ond oddi wrth yr hyn sydd,” ys dywed Carnhuanawc, "canfyddwn fod dysgeidiaeth yn hanfodi yng Nghymru i raddau anrhydeddus. Y gweddillion o'i eiddo ydynt tua chant a hanner o linellau o brydyddiaeth Lladin, y rhai a gyfansoddodd o glod i'w dad, ac a'u hysgrifenodd yn diwedd gwaith Augustinus, yr hwn oedd efe wedi ailysgrifenu i'w dad. Y llinellau, os nad ydynt yn hollol ddiwall fel cyfansoddiad prydyddol, ydynt ar y lleiaf mor ddifai a bod yn dystiolaeth foddhaol fod gwybodaeth o'r Lladin yn hanfodi i raddau nid bychan pryd hyny yng Nghymru.(1) Dechreuant gyda'r geiriau caplynol yn anerchiad duwiol i'r Goruchaf :-
Arbiter altithrone, nutu qui cuncta gubernas.'
Yr hyn sydd yn ol y cynllun a ganlynir yn fynych gan y beirdd Cymreig yn nechreu eu hawdlau. Ond nid wyf yn haeru fod un berthynas rhwng yr amgylchiadau, ychwaneg nag un ddamweiniol yn unig." Dywed mai ei enw yw Ioan, ac mai ei wlad yw Ceredigion:-