Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/12

Gwirwyd y dudalen hon

ENWOGION CEREDIGION.


———————

AFAN BUALLT ydoedd sant enwog yn byw yn gynnar yn nechreu y chweched canrif. Yr oedd yn fab i Cedig ab Ceredig ab Cunedda Wledig, o Degwedd, ferch Tegid Foel, o Benllyn. Yr oedd fel hyn yn fab i dy wysog Ceredigion, ac felly, yn ol pob tebygolrwydd, yn Geredigwr genedigol. Ëfe a sylfaenodd Eglwys Llanafan y Trawsgoed yng Ngheredigion; ac hefyd Llanafan Fawr a Llanafan Fechan yng Nghantref Buallt; ac o herwydd iddo sefydlu ym Muallt, cafodd ei alw yn Afan Buallt. Efe a gladdwyd yn Llanafan Fawr, lle mae ei fedd hyd heddyw yn cael ei ddangos, â'r cerfìad canlynol amo: —

"Hic jacet Sanctus Avenus."

Meddylir mai efe ydoedd trydydd esgob Llanbadarn Fawr; ac oddi wrth hyny meddylir fod esgobaeth Llanbadarn yn cynnwys y plwyfi hyny yng Nghantref Buallt Y mae ei wyl ar yr unfed ar bymtheg o Dachwedd. — Rees's Welsh, Saints, &c.

ANGHARAD, ferch Meurig, ydoedd ferch Meurig, neu Morydd, brenin Aberteifi, yn yr wythfed canrif; priododd â Rhodri Mawr, Tywysog Gwynedd; a chan i'w brawd, Gwgan, foddi yn yr afon Llychwr, yn y flwyddyn 870, wrth ymlid y Paganiaid Duon, sef y Daniaid, o'r wlad, daeth breniniaeth Aberteifi, sef etifeddiaeth ei brawd, yn eiddo i'w phriod Rhodri Mawr. Yr oedd Rhodri Mawr yn feddiannol ar Wynedd drwy etifeddiaeth, ar ran ei fam, Essyllt,