JENKINS, JENKIN S., oedd fab Samuel Jenkins, mab Siencyn Tomos, o'r Cwm Du. Ganed ef yn Nantty, plwyf Troed yr Aur, Mehefin 10, 1755. Yr oedd yn grydd, pregethwr, a bardd, ac yn fynych yn ysgolfeistr. Tiriodd yn Philadelphia yn 1801. Cyfansoddodd gywydd i'r môr ar ei fordaith. Meddai,-
“ Weithiau'n deg, weithiau'n diogan,
Weithiau rai yn waeth ei rân,
Weithiau'n bant, weithiau'n bentwr,
Nawdd i ddyn, mynyddau o ddwr."
Bu yn gweithio wrth ei grefft a phregethu am tua 47 o flynyddau. Bu farw yn Pendleton, Carolina Ddeheuol, Rhagfyr, 1841. Ganwyd Samuel ei fab yn y Cwm Du, Chwefror 12, 1789: yr oedd yn ddysgwr da. Darllenai Gymraeg yn chwech oed. Bu yn aelod yn Eglwys ei dad. Daeth Cymdeithas Efengylaidd yr Henaduriaid i gynnal cyfarfodydd yn y ty. Daeth S. J. felly i gyssylltiad a'r Henaduriaid, a gwnaeth lawer o ddaioni. Daeth y gynnulleidfa hòno i rifo 1100, gan wasgaru a lledu. Ffurfiodd Samuel lawer o gynnulleidfaoedd i'r enwad hwnw. Gadawodd y “Taenellwyr," o gydwybod, medd efe, ac ym- unodd â'r Bedyddwyr. Ymroddodd at wleidiadaeth tua'r flwyddyn 1823, gan flaenori symmudiad gwleidiadol. Tuag ugain mlynedd yn ol, pan oedd terfysgoedd gwaedlyd yn cymmeryd lle rhwng y brodorion a'r Pabyddion estronol, ysgrifenodd Jenkins res o lythyrau i'r Eagle ar y pwnc, y rhai a gawsant sylw mawr. Ysgrifenodd res i'r Christian Chronicle ar hanes Cymru, y rhai a gyhoeddodd dan yr enw "Letters on Welsh History,” yn 1853. Gwnaeth ddaioni dirfawr i gannoedd o Gymry ar ol tirio yn America. Mae Mrs. Boyd, merch Margaret, merch "Siencyn Samuel,” yn werth 150,000 o ddoleri. Mae William Jenkins yn Master in Chancery yn Princetown, Ilinois. Cafodd Samuel, mab “Siencyn Samwel," ei eni yn y Cwm Du, Ebrill 5, 1795. Dysgodd grefft ei dad. Aeth yn fanbaentydd (miniature painter). Arweiniai fywyd crefyddol er pan yn blentyn, a hynododd ei hun fel cerddor. Bu yn preswylio yn Havanna, prif ddinas Cuba