am saith mlynedd. Aeth ei fab henaf ac yntau i Fecsico. Bu y tad yn uchelfaer Americaidd, a'r mab yn ben ar waith helaeth. Mae'r mab yn awr yn Peru yn ben crefftwr o'r fath fwyaf celfydd. Mae'r meibion ereill yn Maryland. Pan unwyd Califfornia â'r Taleithiau, aeth Jonathan, mab arall i'r hen fardd, yno gyda chwmni Americaidd trwy Mecsico. Dewiswyd ef yn farnwr, a Joseph, mab Samuel ei frawd, yn ysgrifenydd y llys. Cafodd y barnwr Jenkins ei anfon allan i'r Môr Tawelog i chwalu morladron. Gwnaed ef yn American Consul i'r Navigator's Islands. Meddai long ei hun yng ngwasanaeth y Llywodraeth. Daliodd y lladron, a chymmerodd eu trysorau, gan eu talu yn ol i'w perchenogion. Gadawodd yr uchelfaeroniaeth yng ngofal yr ysgrifenydd, ac aeth allan a'i long. Tarawodd y llong yn erbyn craig, a soddodd. Ni chollodd y dwylaw. Aeth i Awstralia. Bu am dro yn Awstralia gyda Chymro cyfoethog. Dychwelodd dros gyfandir America i Washington. Mae yn awr yn Cuba yn athraw i fab planwr cyfoethog. Mae yn feistr ar y Gymraeg, Seisoneg, a'r Yspaeneg, ac yn deall llawer o'r Ellmynaeg, Portugaeg, &c. Deallai iaith pawb a ddygid o'i flaen, ond y Chineaid. Dygwyd Cymro o'i flaen un diwrnod, yr hwn oedd anfedrus a'r Seisoneg. Ceisiodd ganddo lefaru yn Gymraeg, gan gyfieithu ei eiriau i'r Seisoneg. Ar ol gorphen, gofynodd y cyfreithwyr iddo, sut yn y byd y gwyddai yr iaith hono? Atebodd yntau, “It is my native language.” Llawer yn rhagor yw enwog- rwydd teulu "Siencyu Samwel.”
JENKINS, JOHN, A.C., periglor Ceri, swydd Drefaldwyn, a aned yng Nghil Bronau, plwyf Llangoedmor. Bu yn yr ysgol yng Nghaerfyrddin; a phan yn 18 oed, ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychain; ond symmudodd wedi hyny i Goleg Morton. Ar ol ei raddio yn y celfyddydau, a derbyn urddau eglwysig, aeth yn gapelydd ar fwrdd y llong Theseus yn y llynges. Pryd hyny yr oedd chwyldroad a rhyfel Ffrainc mewn rhwysg. Cafodd ei anfon i hinsawdd ddinystriol India y Gorllewin, lle yr oedd y dwymyn felen yn difrodi y trigolion yn ofnadwy ym mysg y llynges. Er mwyn cynnal i fyny ei ysbryd ar y fath