Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/125

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae llawer o gynnyrchion yr eisteddfod i'w gweled yn y Cylchgrawn a gyhoeddwyd yng Nghaerfyrddin. Bu yn y modd dedwydd hwn am 21 o flynyddau yng Ngheri, yn ymddedwyddu gwneyd daioni i bawb, yn neillduol i'w genedl ei hun. Bu a'r llaw flaenaf o godi yr enwog John Blackwell o fod yn grydd dinod, i fyned trwy Brifysgol Rhydychain yn weinidog enwog yn yr Eglwys. Tua diwedd Tachwedd, 1829, goddiweddwyd ef gan anhwyldeb blin; a bu farw ar y 20fed o'r mis hwnw, yn 59 mlwydd oed, er annhraethol alaeth i'w deulu, i'w gyfeillion, i'w blwyfolion, ac i'r wlad yn gyffredinol. Ym mhen tridiau, cyfarfu y plwyfolion, dan arwyddion neillduol o alar, gan wneyd penderfyniad i gyfarfod yno ddydd yr angladd i gerdded yn orymdaith dan reolaeth wardeniaid yr Eglwys. Ar ddiwedd yr angladd, cytunasant i ddyfod i'r Eglwys y Sul canlynol mewn galarwisgoedd cyflawn; ac felly y bu. Nid oedd yno lai na 183 o het-rwymau i'w gweled yn y dorf. Pan gyrhaeddodd y newydd galarus o'i farwolaeth dros y wlad, dechreuodd y beirdd, o bob parth, gyfansoddi galarnadau am eu hanwyl Ifor, yr hwn fu yn gymmaint cefnogwr iddynt, ac mor wresog dros iaith ei wlad. Yn Eisteddfod Biwmares, yn y flwyddyn 1832, rhoddwyd “ Marwolaeth y Parch. John Jenkins (Ifor Ceri) yn un o'r testynau. Daeth wyth i mewn ar y testyn, pedwar o honynt yn rhagorol. Y goreu oedd T. Jones (Gwenffrwd), a'r ail orou oedd Ioan Tegid, yr hwn hefyd a gafodd wobr. Yn anffodus, caniadau diodl ydynt; ac felly, gorphwysant byth heb eu codi i sylw y genedl. Canodd llawer heb olwg am wobr.

"Ifor oedd a dihafarch,
Gwr o bawb garai ei barch;
Mwynaidd, gwaraidd, a gwrawl,
Ugain o feirdd gân ei fawl.
Ym mha fro mae Cymro call
I'w euro'n Ifor arall ?
Iforiaid oll yn feirwon,
Gwr i'w swydd; ni wiw gair son!”
G. MECHAIN.

Yr oedd yn benaf o bump o blant, ac yn etifodd Cilbronau; ac y mae "Gwaed Cilbronau” yn ddiareb trwy'r