Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/126

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wlad. Yr oedd ei fam yn chwaer i Syr Watkin Lewes, Tredefaid. Hana y Lewesiaid o Lewes Dafydd Meredydd, o Abernant Bychan, yr hwn a ddisgynai yn gywir o Owain ab Bradwen, sylfaenydd Pymthegfed Llwyth Breninol Gwynedd. Mae y Jenkinsiaid yn hanu o Wynfardd Dyfed, a cheir yr enwau Gruffydd a Siencyn braidd bob yn ail yn yr achres am oesoedd. Mab Griffith Jenkins, Ysw., ei frawd ieuengaf, yw R. D. Jenkins, Ysw., Pant Hirion; ac y mae yn tebygu yn fawr i'w ewythr hyglod. Gadawodd Ifor Ceri ar ei ol un plentyn, mab, yr hwn sydd gwedi newid ei enw Jenkins am Hayward. Daeth rhes o lythyrau allan yn y Cylchgrawn, dau yr enw “Cymru yn y Dyddiau gynt," wedi eu cymmeryd o weddillion llenyddol Ifor Ceri.

JENKINS, JOHN (Ioan Siencyn o Aberteifi), ydoedd fab yr hen fardd Siencyn Tomos, Cwmdu. Ganed ef ar ddydd Gwener, Mawrth 26, 1716. Cafodd addysg weddol yn ei ddyddiau boreuol. Dysgodd fod yn grydd gan ei dad, ac yr oedd yn bencampwr am esgid. Ond gadawodd y gryddiaeth, a bu yn cadw ysgol am flynyddau lawer. Bu am chwech mlynedd yn cadw ysgol yng Nghwmglöyn, dan yr Yswain Llwyd; ac am flynyddau dan nawdd teulu y Pentre. Yr oedd Ioan yn meddu llawer iawn o ddawn barddonol. Y mae yn debyg y gellir dywedyd mai efe fu yr olaf o feirdd y Deheudir yn ymarfer clera, sef myned am draws y boneddigion â chaniadau i'w hanerch, gan gael croesaw. caredig wrth adrodd ei ganiadau. Treuliai wythnosau felly, ar wyliau Nadolig. Mae cân ar gael a gyfansoddodd y Nadolig olaf o'i oes i'r perwyl hwnw:-

“Bendithied Duw atteg Cwmgloyn a Chilwendeg,
A'r Pentre rydd anrheg yn fwyndeg i fi;
A'r Pantgwyn yw'r pedwar, lle 'r af yn 'wyllysgar
Y gwyliau yn gynnar i ganu.”

Mae "Cwynfan y Prydydd," a gyfansoddodd mewn cystudd yn 1782, yn tebygu i ganiadau Edward Richard. Mae llawer iawn o'i ganiadau wedi eu cyhoeddi ym Mlodau Dyfed, ac y mae amryw ddarnau wedi dyfod i'r golwg ar ol cyhoeddi y llyfr hwnw. Yr oedd Ioan ym mhell o fod yn brydydd cyffredin: y mae ei waith, gan fwyaf, yn werth ei ail argraffu. Bu farw o ddeutu dau o'r gloch