gyfoeth a'i amser at hyny, agos yn llwyr, am flynyddau. Cyn 1783, pan y dechreuodd adeiladu y palas, yr oedd y ffyrdd yn annheithiadwy, ac amaethyddiaeth yn y cyflwr gwaethaf. Efe yn fuan a newidiodd fythod truenus y gweithwyr am anneddau cysurus, gan osod y trigolion ar waith i blanu milfiloedd o goed ar hyd y tiroedd segur, y gelltydd, a'r mynyddau, yn gystal a gwelliantau gwerthfawr ereill. Er mwyn gwella cyflwr amaethyddiaeth, dygodd rai ffermwyr o'r Alban i'r wlad, gan ffurfio cymdeithas amaethyddol, a rhoddi gwobrwyau i'r bwthynwyr, a phrynu eu cynnyrchion. Argraffodd draethodyn 'tra rhagorol, er mwyn lledu ei amcan, o'r enw, A CardiganshireLandlord's Advice to his Tenants. Yr oedd hefyd yn gefnogwr gwresog i lenyddiaeth; ac ym mhlith yr amrywiol gynnyrchion o'i eiddo, y mae argraffiad o Froissarts Chronicles, mewn pedair gyfrol unplyg; Travels of La Broigntoin, mewn un gyfrol bedwar-plyg; Chronicles of Monstrelet, mewn pedair cyfrol; a Joinville, mewn dwy gyfrol pedwar-plyg, yr oll o'r rhai a gyfieithodd efe ei hun o'r Ffrancaeg, ac argraffwyd y tri olaf yn ei wasg ei hun yn. yr Hafod. Yr oedd y palas wedi ei adeiladu yn y modd mwyaf ardderchog o ffurf Gothaidd, a thu fewn wedi ei addurno gan waith celfyddydwyr uchelaf yr oesoedd. Yn y ddwy neuadd yr oedd darluniau gan Hodges, wedi ei cymmeryd o fordeithiau Cadben Cook; Ci Newfoundland Dewisol, gan Opie; Ceffyl Dewisol, gan Gilpin; ac Yspaen-gi Dewisol, gan yr un paentydd; Darre o Ffrwythau, gan Michael Angelo, Caeravaggio; Bywyd Llonydd, gan Roostraten; heb law hyny, Darlun Syr C. Hanbury Williams, copi oddi wrth Mengs; Darlun Boneddiges; Corffyll (bust) o Caracalla, copi o'r un ym mhentref Borghese; a dau Fwrdd o Losgwy o Vesuvius. Dros fwrdd y ffumer yn yr ystafell foreuol, yr oedd y Teulu Sanctaidd, gan Baroccio; Arglwydd Ganghellydd Thurlow, a Richard Payne Knight, Ysw. Ar y llaw chwith, yr oedd Herodias gyda phen Ioan Fedyddiwr, gan Michael Angelo; Arfferyll Dadfeiliedig, gan Salvator Rosa. Ar y llaw ddeheu, Arlun Mr. Johnes, gan Syr Godfrey Kneller; ac o dano yr oedd Golygfa o bont St. Merreme, gan Dean. Rhwng y drysau
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/128
Prawfddarllenwyd y dudalen hon