Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/131

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

argraffwyd yn Llundain. Cyfansoddodd Mr. Johns a'i gyfeillion amryw lyfrau ysgol hefyd. Yn y blynyddoedd 1836–37–38, yr oedd yr erlidigaeth yn greulawn arswydus yn yr ynys lluoedd yn cael eu merthyru. Ym Mehefin, 1838, aeth Mr. Johns a Dr. Powell drosodd i Tamatave, ac aeth yr olaf ym mlaen i'r brif ddinas; ac ar ol gwella ychydig o'r dwymyn, aeth Mr. Johns yn ol i Mauritius, a chyn hir, llwyddwyd i gael llawer o'r Cristionogion drosodd ato. Ar ol hyn, daeth Mr. Johns â chwech o'r ffoedigion i Benryn Gobaith Da; cyrhaeddasant angorfa Algoa ar y 23ydd o Ragfyr, lle yr arosasant am bythefnos gan dderbyn caredigrwydd ar law eu cyfeillion Cristionogol, yn neillduol yng nghyfeillach yr hen athraw ysbrydol, y Parch. Mr. Kitching, yr hwn oedd wedi bod ym Madagascar. Ar eu dyfodiad i dref y Penryn, croesawyd hwy yn gariadus gan gyfeillion y genadaeth yno. Ar ol cael cynghor Dr. Phylip ac ereill, ymadawsant am Loegr. Cyrhaeddasant Loegr yn niwedd Mai, 1839, lle y cawsant eu croesawu gan filoedd o fanllefau. Cynnaliwyd cyfarfodydd mawr yn fuan yn Neuadd Caerwysg, lle y dangoswyd y cydymdeimlad mwyaf a'r ffoedigion, a'r llawenydd mawr wrth weled y dysgyblion ieuainc mor wrol yn y ffydd. Bu y ffoedigion yn derbyn dysg yn Llundain, er eu cymhwyso i ddychwelyd i wlad eu genedigaeth. Wedi aros yma am dro, dychwelodd Mr. Johns a'i gyfeillion i Madagascar, a thiriasant ym Mauritius yn Ionawr, 1841, lle y cyfarfuasant & Mr. Griffiths y cenadwr, a Mr. Jones yn glaf iawn yn ei wely, lle y bu farw yn fuan. Parhaodd Mr. Johns i lafurio am ennyd. Bu farw yn Nosebel, yn 1842, yn 49 oed. Yr oedd yn gallu pregethu mewn tair iaith, ac yn hyddysg mewn pump. Cyhoeddodd lyfr Cymraeg, sef Hanes am Erlidigaeth y Cristionogion ym Madagascar, yng nghyd a Diangfa y Ffoedigion i Brydain Fawr, yn 1840. Bu â llaw yng nghyfansoddi Gramadeg yn y Malagaeg, a chyfieithu y Beibi i'r iaith hono, yn gyatal ag amryw lyfrau ereill.

JONES, DANIEL H., D.C., a aned ym mhentref Llanfihangel Ystrad o gylch y flwyddyn 1780. Bu yn yr ysgol gyda'r Parch. D. Davis, Castell Hywel. Bu wedi hyny