yn cadw ysgol yn Llanybydder a manau ereill. Dywedir fod amryw yn ymryson am ysgol Llanybydder ar y pryd, ac i Dr. Thomas, Aberduar, roddi y ddwy linell hyn i'w cyfieithu i'r Seisoneg ar y pryd :-
“Tempora mutantur,
Et nos mutamur in illis."
Dywedir mai y Dr. Jones oedd y goreu, ac felly iddo gael yr ysgol. Aeth wedi hyny i Goleg Rotherham; a chyn hir cafodd ei raddio gan un o brif athrofëydd yr Alban yn D.C., ond pa flwyddyn nis gwyddom. Bu yn athraw yn nheulu yr anrhydeddus Arglwydd Holland. Treuliodd brydnawn ei fywyd yn gysurus gyda'i wraig a'i ddwy nith ym Milton Next Gravesend. Ni bu iddo blant. Bu yn ddall am flynyddau cyn ei farwolaeth. Ei olygiadau crefyddol oedd Undodaidd. Yr oedd ei fywyd yn ddiargyboedd a dichlyvaidd. Bu farw Medi, 1866, yn 86 mlwydd oed. Hyfryd mynegu ei fod yn gofus o'i berthynasau yng Nghymru, trwy anfon arian iddynt yn awr ac eilwaith.
JONES, CADBEN DAVID, a aned yn Llwyn Rhys, plwyf Llanbadarn Odwyn. Ei dad oedd John Jones, yr hwn oedd un o'r pregethwyr Anghydffurfiol cyntaf yn y sir. Cafodd D. Jones ysgol led dda yn ei febyd. Yr oedd yn hyddysg yn y Gymraeg, Seisoneg, Groeg, a Lladin, ac hefyd yn feistr ar y Ffrancaeg. Daeth yn y modd hyn i droi mewn cylchoedd uchel yn y brif ddinas. Aeth i wasanaeth lago II.; ac yr oedd yn cael cyfeillachu a'r brenin. Daeth adref i roddi tro am ei rieni. Gwelodd yr ben bobl ef yn croesi y waen at y ty; a chan fod gwisg milwr am dano, rhedodd yr hen wr i ymguddio i'r llofft, gan feddwl. ei fod yn dyfod i'w ddal ef am bregethu! Pan ofynodd am wr y ty, syrthiodd yr hen wraig mewn llewyg gan ofn. Daeth yr hen wr i'r golwg, ac erbyn hyny, mynegodd yntau taw eu mab oedd. Cafodd freinlen neillduol i'w dad i bregethu yn ei dy ei hun; ac adeiladodd yr hen wr groes wrth y ty i gael mwy o le. Mae y ty ar lan hyd heddyw. Daeth y Cadben Jones wedi hyny yn swyddwr yn Niffynlu William III., a bu gydag ef am