gryn amser ar y Cyfandir, ac yr oedd yn gydymaith iddo yn ei holl symmudiadau milwrol. Pryd hyny y perffeithiodd ei hun yn y Ffrancaeg. Ysgrifenodd y llyfrau canlynol:- 1. Secret History of Whitehall; London, 1697, two vols. in one, 8vo.: Continuation from 1688 to 1696, 8vo.: New and best Edition of this Scandalous History, 1717, two vols., 12mo. 2. History of the Turks, 1655-1701, two vols., 8vo. 3. Life of King James II., 1702, 8vo. 4. History of the House of Brunswick, Lunenburgh, 1715, 8vo. 5. Translation of Pezron's Antiquities of Nations from the French. 6. History of William III., 1702. 7. The Wars and Causes of them, between England and France, with a Treatise of the Salyque Law. 8. The Tragical History of the Stuart Family 1697. 9. A Complete History of Europe, from 1600 to 1716, in 16 vols. Cynnwys y 12fed gyfrol hanes 1711. (Mae'r llyfr wedi ei gyflwyno i Syr Samuel V. Sambroke, Bar. Ar ddiwedd y cyflwyniad, ceir y llythyrevau D. J.) 10. The Lives of Sir Stephen Fox, of Dr. South, of Earl of Halifax, and of Dr. Redclif. Mr. Crossley, Manceinion, a gafodd allan yn ddiweddar mai Cadben Jones oedd awdwr y bywgraffiadau hyn trwy ysgrifen tu fewn i un o'r llyfrau. Maent yn bedwar gwaith ar wahân. Mae peth ammheuaeth ai efe oedd awdwr Life of William III., 1702. Dywedir taw Boyer oedd yr awdwr; ond y mae bywyd William wedi ei ysgrifenu yn 1703; ac ef allai taw hwnw ysgrifenodd efe. 11. The Detection of Court and State of England during the four last Reigns, by Roger Coke, Esq. grandson of Sir Edward Coke, Lord Chief Justice). Cafodd y gwaith hwn ei ddiwygio a'i helaethu gan D. Jones, fel y dywed yn ei ragymadrodd i'w Tragical History of the Stuart Family. Yr oedd mam y Cadben yn ferch Mr. Edwards, Deri Odwyn; ac y mae yn debyg taw ei brawd oedd perchen Llwyn Rhys. Ei berchenog yn awr yw J. E. Rogers, Ysw., Aber Meirig; ac Edwards oedd enw hen dad cu Mr. Rogers. Nid oes hanes am ddisgynyddion D. Jones. Tebyg iddo orphen ei oes yn Lloegr.
JONES, DAVID, A.C., oedd enedigol, fel y tybir, o blwyf Penbryn. Dygwyd ef i fyny yn Rhydychain, lle y cafodd