ynys; ac ar ol ychydig o adferiad, gadawodd y cenadon y wlad. Cyrhaeddodd Mr. Jones Mauritius, lle y bu yn glaf am dro, a bu farw Mai, 1841, a dychwelodd ei weddw at ei phlant i Lundain.
Fel y dywedasom o'r blaen, Meistri Jones a Bevan oedd y cenadon Protestanaidd cyntaf a ymwelasant a'r ynys fawr hòno; ac y mae Mr. Bevan wedi ei gladdu yn Tamatave, a Jones ym Mauritius. Yr oedd clod Mr. Jones yn sefyll yn uchel fel Cristion, ac fel gweithiwr dyfal a phenderfynol dros Dduw yn y wlad dywell hòno; ac y mae llawer o ol ei lafur i'w weled yn yr ynys y dydd heddyw; ac nid oes neb, ond yr Hollwybodol, a wyr faint yw yr effaith i fod yn yr amser dyfodol.
JONES, DAVID, offeiriad a drowyd allan o Landyssilio, ydoedd, fel y tybir, enedigol o Gellan. Yr oedd yn ddyn dysgedig, doniol, a llafurus. Ar ol ei droi allan o herwydd nacäu cydymffurfio, bu yn preswylio ym mhlwyf Cellan, ac yn llafurio yn y cylch hwnw fel Ymneilldüwr. Cyfieithodd Holwyddoreg y Gymmanfa i'r Gymraeg, ac hefyd rai o Ganiadau Lladin Rhys Prydderch: ond y gwaith mwyaf a wnaeth, oedd dwyn trwy y wasg 10,000 o gopiau o'r Ysgrythyrau yn llyfrau wythplyg, yn y Gymraeg, yr hyn oedd anrheg ammhrisiadwy i'w genedl. Yr oedd yn gyfaill i'r Parch. Stephen Hughes, ac yn cydweithio ag ef yn niwygiad yr orgraff. Cyfieithodd hefyd waith Allein ar Ddychweliad Pechadur. Cynnorthwyid ef yn ei holl ymdrechion gan Abraham Warton, a boneddigion ereill. Yr oedd yn byw mewn amser gofidus, pan oedd dwy blaid yn y deyrnas yn ymdrechu ymddial ar eu gilydd. JONĖS, DAVID W., diweddar weinidog yr Annibynwyr, yn Nhreffynnon, a aned yn y Wern Newydd, Llanfair Orllwyn, Hydref 14, 1809. Bu yn yr ysgol gyda'r Parch. J. Jones, mab y Parch. Jonathan Jones, Rhyd y Bont, wedi hyny yn y Neuaddlwyd, ac yn olaf yn Rotherham. Urddwyd ef yn Nhreffynnon, 1835. Bu yn cadw ysgol flodeuog yn yr ardal hòno. Yr oedd yn ysgolor gwych, ac yn meddu ar wybodaeth helaeth, eto yn dra hunanymwadol. Bu yn ysgrifenydd y gangen gynnorthwyol o Gymdeithas Genadol Llundain dros Ogledd Cymru; y Feibl Gymdeithas,