ef yn Aberteifi, Tachwedd 5, 1800. Edrychid ar ei sefydliad yn un tra gobeithiol, gan ei fod yn ddysgedig a thalentog, a'r Eglwys yn lluosog a pharchus. Daeth ym mlaen yn gyflym yn y weinidogaeth; ystyrid ef ym mlaenaf fel pregethwr. Ychwanegai nifer y gynnulleidfa a'r aelodau yn barhäus, a cherid ef yn fawr gan bawb yn y dref: ond darfu i rai o'r bobl ddechreu ei anrhegu yn aml â diod feddwol. Yn y modd hyny, aeth yn raddol i yfed gormodedd, nes anafu ei hun, a chollodd ei le yn yr Eglwys, nes gorfod ei ddiarddel yn y flwyddyn 1810. Adferwyd ef drachefn fel aelod, ond nid i'r weinidogaeth. Yn yr amser hwn, cyfieithodd draethawd rhagorol Abraham Booth ar "Faddeuant Pechod," a chyfansoddodd draethawd ei hun o'r enw "Bendithiou Rhad, ac nid Prynedig." Symmudodd i fyw i Eglwys Erw, sir Benfro, lle y bu farw.
JONES, ISAAC, a aned ym mhlwyf Llanychaiarn, Mai 2, 1804. Derbyniodd ei addysg foreuol gan ei dad, yr hwn, er nad oedd ond gwëydd wrth ei alwedigaeth, oedd yn alluog i'w ddysgu mewn Lladin a changenau uchel ereill o ddysgeidiaeth. Medrai ddarllen Lladin yn saith oed. Bu mewn ysgol blwyfol, lle yr oedd yr athraw yn gallu dysgu yr ieithoedd dysgedig. Aeth wedi hyny i Ysgol Ramadegol Aberystwyth, lle y daeth ym mhen amser yn gynnorthwywr; ac yn 1828, a benodwyd yn ben-athraw, yr hon sefyllfa a ddaliodd hyd 1834, pan ymddiswyddodd, gan fyned i Goleg Dewi Sant, Llanbedr. Yn y flwyddyn ganlynol, etholwyd ef yn Ysgolor Hebraeg Eldon, ac a urddwyd yn ddiacon ym Medi, 1836, ac yn offeiriad, Medi, 1837, pryd y cyrhaeddodd wobr offeiriad, sef gwobr Esgob Ty Ddewi i'r sawl fuasai yn ateb oreu mewn arholiaeth dduwinyddol. Ei guradiaeth gyntaf oedd Llanfihangel Geneu'r Glyn, yr hon, wedi hyny, a newidiodd am Bangor, ger Aberystwyth. Yn Chwefror, 1840, cafodd guradiaeth Llanedwen a Llanddeiniolfab ym Mon, lle y parhaodd i weithio gydag aidd ac ymroddgarwch hyd ei farwolaeth, yr hyn a gymmerodd le Rhagfyr 2, 1850. Cafodd ei gladdu ym mynwent Llanidan. Ymddibyna ei enwogrwydd llenyddol yn benaf fel cyfieithydd, ac ystyrid ef y cyfieithydd