goreu yng Nghymru. Ei gynnyrch llenyddol cyntaf yw Gramadeg Cymraeg, yr hwn a argraffwyd yn Aberystwyth yn 1832, ac a ailargraffwyd yn 1841. Cyfieithodd Eiriadur Ysgrythyrol Gurney, gydag amryw ychwanegiadau, yr hwn a orphenwyd yn 1835, mewn dwy gyfrol 12plyg. Cyfieithodd hefyd Esboniad Dr. Adam Clarke ar y Testament Newydd, yr hwn a gyhoeddwyd yn 1847, yn ddwy gyfrol 8plyg; ac yr oedd wedi myned ym mlaen mor bell a Lefiticus iv. 12, ar yr Hen Destament. Ysgrifenodd hefyd yr ail gyfrol o'r Geirlyfr Cymraeg, a ddechreuwyd gan Owen Williams, Waenfawr; a chynnorthwyodd gyfieithu Esboniad Mathew Henry, cyhoeddedig gan y Parch. E. Griffiths, Abertawy. Ni chyhoeddwyd ond hanner ei gyfieithad. o Williams' Missionary Enterprises, o herwydd fod cyfieithad arall yn cael ei gyhoeddi ar y pryd yn y Deheudir. Efe hefyd a olygodd ail- argraffiad o Destament Cymraeg Salesbury, a gyhoeddwyd yng Nghaernarfon yn 1850. Yr oedd yn arwain bywyd diwyd a chrefyddol, a bu, fel gweinidog, yn dra llwyddiannus. Camgyhuddir llawer o lenorion Cymru, os byddant yn weinidogion, nad ydynt yn ymroddgar yn y cylch hwnw; ond y mae bywyd llafurus Isaac Jones, yn un o'r gwrthbrofion cadarnaf a ellir daflu i wyneb y blaid wrth-Gymreig hòno.
JONES, JACOB, a aned yn Nhal y Bont, Mai 29, 1823. Cafodd fanteision dysg pan yn ieuanc. Cafodd ei dderbyn i Athrofa y Parch. G. Brown, LL.D., Llynlleifiad. Aeth i Brifysgol Glasgow. Dychwelodd i Dal y Bont yn y flwyddyn 1843, ac agorodd ysgol yno. Yn 1845, aeth i Goleg Spring Hill; ac yn 1881, cafodd ei urddo yn weinidog Cynnulleidfaol ym Melksham. Yr oedd yn ysgolor da, ac yn wr o amgyffred ddofn. Penderfynodd fyned i Awstralia. Collodd ei fywyd yng ngolwg tir Awstralia o herwydd llongddrylliad y "Catherine Adamson," Hyd. 24, 1857. Pe cawsai y gwr llafurus hwn oes weddol hir, diammheu y buasai yn werth mawr i'r byd.
JONES, JENKIN, oedd fab John Jones, Llwyn Rhys, a brawd i'r Cadben Jones. Bu yn cydlafurio a'i gefnder, D. Edwards, D. Jones, a Philip Pugh, yn y Cilgwyn a'r cylchoedd