Yr ydym wedi gweled mewn llawysgrif, fod Jenkin Jones a'i gyd-weinidogion, wedi bod yn cynnal ysgol flodeuog yn y Cilgwyn, a bod llyfrau yn dyfod iddynt oddi wrth ei frodyr, David a Samuel Jones o Lundain. Yr oedd gan Jenkin Jones bedair merch. Margaret, ei ferch henaf, oedd y cyntaf fedyddiodd P. Pugh, sef yn y flwyddyn 1709. Priododd Magdalen ei ferch & Peter Davies, Glyn Aeron. Cafodd Magdalen ei bedyddio Mehefin 14, 1718, a bu farw yn 1755. Mae Mr. John Davies, Glyn, yn orwyr i Peter Davies a Magdalen ei wraig. Aeth Eliza, neu Margaret, yn wraig i Dderi Ormond, a Sarah, ei ferch ieuengaf, a briododd a'r Parch. Timothy Davies, Cilgwyn, a phreswylient yn y Felindre. Mae llawer o'i disgynyddion yn y wlad. Gorwyr iddynt yw y Parch. Evan Jones, periglor Tyglyn, ac felly Evan Davies, Ysw., LL.D., Abertawe. Ymddengys taw yn Llwyn Rhys yr oedd Jenkin Jones yn preswylio. Cafodd Llwyn Piöd ei adeiladu fel capel yn lle Llwyn Rhys tua'r flwyddyn 1712. Pris y cyfan heb y rhoddion, oedd 13p. 138. 00.
JONES, JENKIN, gweinidog henadurol yn Llwyn Rhyd Owain, a aned ym mhlwyf Llanwenog. Aeth i Athrofa Caerfyrddin yn 1721, a chafodd ei urddo yn y Ciliau a'r capeli cylchynol yn 1726. Yr oedd yn ddyn ieuanc dysgedig, hawddgar, ac yn bregethwr doniol. Priododd foneddiges gyfoethog, ac felly daeth i sefyll yn dra uchel yn y wlad. Tua 1729, efe a ddechreuodd bregethu golygiadau Arminiaidd, ac efe oedd y cyntaf a ddechreuodd ddadleu hyny yn y wlad. Cafodd ei attegu gan Abel Francis, Rhys Davies, ysgolfeistr, a Charles Winter. Achosodd hyn aflonyddwch ym Mhant y Creuddyn, y capel agosaf i'r lle y preswyliai; ac o herwydd hyny, efe adeiladodd Llwyn Rhyd Owain ar ei dir ei hun. Cafodd y boddhad o weled chwech o gapeli yn ei ddilyn yn ei athrawiaeth, y rai wedi hyny, a lithrasant i Ariaeth, ac yn y diwedd i Undodiaeth. Yr oedd James Lewis, Pencadair, yn preswylio yn agos i Bont y Creuddyn, ac yn cydweinidogaethu & Jenkin Jones. Daeth Mr. Lewis allan yn gadarn i amddiffyn Calfiniaeth, gan gael ei gynnorthwyo gan Christmas Samuel.