Amddiffynodd Jenkin Jones ei olygiadau mewn llyfr o'r enw Cyfrif Cywir o'r Pechod Gwreiddiol. Yn 1830, daeth allan gan James Lewis & Christmas Samuel atebiad iddo, o'r enw Y Cyfrif Cywiraf o'r Pechod Gwreiddiol; ac yn 1733, daeth allan gan Enoch Francis, Gair yn ei Bryd, i amddiffyn Calfiniaeth. Daeth allan gan Simon Thomas o Henffordd, yn 1735, Hanes Pelagius, gan wrth-ladd Arminiaeth. Cyhoeddodd Jenkin Jones Gatechism yn 1732, ar bynciau crefyddol, ac y mae ynddo Weddi'r Arglwydd a Chredo'r Apostolion; ac yn wir, nid bawdd canfod yn y gwaith hwnw fod yr awdwr wedi myned ym mhell o dir "uniongred." Cyfieithodd tra yn yr athrofa, Fywyd Agrippa. Bu farw yn 1742. Cyhoeddwyd ei Hymnau gan ei fab yng nghyfraith, D. Llwyd, yn 1768, yn cynnwys 84 o dudalenau. Wele enghraifft o un o honynt:-
"I adrodd gwyrthiau Iesu hael
A'i gariad pur, nis gellir cael
Na geiriau llwyr, na myfyr maith,
Rhy fyr yw'n cof, rhy gul yw'n iaith.”
Mae ganddo gyfansoddiadau ar y 5med o Dachwedd, dydd Brad y Powdwr Gwn, Dyfodiad y Brenin William III, &c. Ceir iddo farwnad gan Ifan Thomas o Lanarth, ar fesur Gwel yr Adeilad.
JONES, JOHN, Nant Eos, oedd foneddwr enwog fel rhyfelwr yn amser Siarl I. ac Olifer Cromwel. Bu ar y cyntaf yn gadben, ac wedi hyny yn filwriad. Ceir y cymmeriad a ganlyn iddo:-
"John Jones, one that appeared in the first publique differences for monarchy, and much suffered by reason thereof; yet in 1647, he assisted the reducing of Aberystwyth, & garrison then holden for the King, it was thought upon a personall injury offered him; his principles being without question stedfastly fitted for monarchy, and the true heir thereof; for he was constantly imprisoned; on all securing, payd a deep fine in Goldsmith's Hall, decimated and grievously sequestered, declyned, though sometimes tendred publique offices whatsoever; the constant object of the phanatique hatred;