but one of mean parts, only wise in that he is partly sensible of the meaness of them." (Cambrian Register, cyf. i., tud. 166.)
Bu farw yn 1666.
JONES, JOHN, Llwyn Rhys, oedd yn ddiammheu un o'r pregethwyr cyntaf, os nid y cyntaf oll, yn y sir. Efe oedd tad Cadben Jones, a'r Parch. Jenkin Jones a nodasom yn barod. Yr oedd ganddo ddeuddeg o blant, pedwar mab ac wyth merch. Cymmerodd Dafydd, Samuel, a Jenkin ran gyhoeddus yn eu bywyd; am John, nid oes dim hanes. Y mae yn amlwg i John Jones ddechreu pregethu yn ddirgelaidd yn Llwyn Rhys yn fuan ar ol cyhoeddiad Deddf y Cydffurfiad. Fel y dywedasom wrth son am ei fab, Cadben Jones, cafodd hawlfraint arbenig i bregethu yn ei dy ei hun, trwy ddylanwad ei fab gyda'r brenin. Mae crybwylliad am dano mewn ysgrif yn Broad Mead, Caerodor, ar ol cyhoeddiad Deddf y Goddefiad, 1672, a "John Jones Elder Elect” y gelwir ef yno. Mae beddfaen ei wraig yn Llanbadarn Odwyn, ac arno y cerfiad a ganlyn:
“Here lieth the body of Margad, wife of John Jones, of Llwyn- rhys, who departed this life the 23rd day of May, in the year 1700, and the 40th year of her marriage, aged 69."
Mae yn amlwg fod J. Jones yn fyw wedi hyny. Mae dwy linell o Ladin ar y maen; ond y maent wedi eu sathru gymmaint fel nad oes modd eu deall.
JONES, JOHN, person Llangynog, Maldwyn, oedd enedigol o Geredigion. Yn 1782, cafodd guradiaeth Mallwyd, a thrachefn y bersoniaeth hòno gan yr Esgob Shipley. Ar ol hyny, cafodd berigloriaeth Pennant, a phersoniaeth Llangynog, y ddwy yn sir Drefaldwyn. Gadawodd ar ei ol lawer o bregethau mewn ysgrifen, a chyhoeddwyd 30 o honynt mewn dwy gyfrol deneu, o dan olygiaeth y Parch. H. Parry, Llanasa.
JONES, JOHN, gweinidog y Bedyddwyr yng Nghapel Sion, Merthyr, a aned ym mhlwyf Llanfihangel Geneu'r Glyn yn 1806. Cafodd ei hyfforddi yn egwyddorion crefydd er yn blentyn. Ymunodd â'r Bedyddwyr yn Nhal y Bont. Dechreuodd bregethu yn 1828. Ymwelodd A sir Gaernarfon, ac agorodd ysgol ym Mhont Llyfni.