Dywedir i Arglwydd Newborough glywed am ei athrylith, ac iddo gynnyg ei ddwyn i fyny yn ddadleuydd yn y gyfraith. Aeth i Athrofa y Fenni yn 1831. Yr oedd yn cydfyfyrio â'r enwog D. R. Stephen. Ymsefydlodd yn weinidog ym Mlaen Afon. Yr oedd ymraniad wedi cymmeryd lle ym Mlaen Afon, ac yr oedd ei gyfaill, D. Jones, yn llafurio yn y capel arall; a thrwy eu cyfeillgarwch, daeth pethau i well ysbryd yn y lle. Nid yn unig yr oedd Mr. Jones yn boblogaidd a pharchus gartref, ond yr oedd yn cael ei ystyried yn un o brif bregethwyr y Dywysogaeth. Yng nghanol ei barch ym Mlaen Afon, cafodd alwad i Sion, Merthyr, yr hwn le oedd mewn angen gweinidog, o herwydd i'r Parch. D. Saunders gael ei daro gan y parlys. Ymsefydlodd yno yn 1839. Bu yno yn llwyddiannus iawn, a gorfu iddynt ailadeiladu y capel mawr presennol. Yn y cyfamser, aeth of a chyfaill i ffynnonau Llanfair ym Muallt er mwyn iechyd ; ac yn agos i Bont Newydd ar Wy, gwylltiodd y ceffyl, a neidiodd Mr. J. i lawr, a chafodd yr anffawd o dori ei ddwy glun. Dyoddefodd lawer o boenau, a methodd bregethu am bymtheg mis. Dywedir i'r gynnulleidfa, yn adeg ei gystudd, leihau yn fawr; ond ar ol ei adferiad, daeth y crwydriaid yn ol. Ni ddaeth yn alluog i fedyddio, ac felly urddwyd dau bregethwr i'w gynnorthwyo. Dywedir ei fod yn areithiwr godidog---yn rhagori ar agos bawb yng Nghymru mewn cyflawnder geiriau; ac nid geiriau gweigion mo honynt, ond yr oedd cyflawnder o feddyliau yn dyfod i'r golwg bob mynyd, fel trysorau gyda chenllif. Yr oedd yn ddyn hardd, a boneddigaidd ei ymddangosiad, fel y cerid ef yn gyffredinol; a phan yn pregethu yn ei lawn hwyliau, yr oedd ei olwg yn swynol iawn. Bu farw ar ol byr gystudd, Mai 5, 1859, yn 52 oed. Claddwyd ef yn yr un bedd a'i gydfugeiliaid, D. Saunders a Rees Jones. Yn ei amser ef yr adeiladwyd Silo, Abercanaid; a Charmel, Coed y Cymmer.
JONES, JOHN, gweinidog yr Undodiaid yn Heol y Felin, Aberdar, a aned ym Mhant Lluost, plwyf Llanarth. Bu am ryw amser yn ysgol enwog Castell Hywel, o ba le y symmudodd i Goleg Henadurol Caerfyrddin. Ar ol bod yno am dair blynedd, a chyrhaedd gradd lled uchel mewn