Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/145

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyageidiaeth, ymadawodd yn 1827. Ohyny hyd 1833, bu yn cadw ysgol mewn gwahanol fanau ; ac yn y flwyddyn grybwylledig, derbyniodd alwad i Hen Dy Cwrdd, Aberdar. Yn fuan ar ol hyn, priododd Miss Ann Roes, Gelligell, ger Llanbedr, ac agorodd ysgol ramadegol mewn cyssylltiad â'i gapel. Er yn ddiwyd gyda'r ysgol a'r weinidogaeth, efe a ysgrifenodd lawer iawn i'r wasg Gymreig._Ysgrifenodd erthyglau tra galluog i'r hen gyfres o'r Ymofynydd, ar Dystiolaeth Llyfr Natur am Dduw; Duw a'i Ddybenion yn ol ei Air; Sylwadau ar Gythreuliaid, &c." Cyhoeddodd Bregeth ar Edifeirwch Gwely Angeu yn 1836; Llyfr Cyntaf i Blant yr Ysgol Sul, 1839; cyfieithad o Lythyr Cogan ar y Drindod; Galwad ar yr Ieuenctyd i droi at Dduw, sef pregeth angladdol y Parch. Thomas Roes, Blaengwrach, 1840; Pregeth ar y Pechod yn erbyn yr Ysbryd Glan, 1846; Crwth Dyffryn Clettwr, sef gwaith barddonol ei frawd, Rhys Jones, gydag hanes yr awdwr, 1848; Traethawd ar y Sabbath; Casgliad o Salmau a Hymnau, 1857. Dywedir fod Mr. Jones i raddau yn erwin yn ei ymddangosiad cyntaf; ond erbyn ei adnabod, celid ar ddeall fod ganddo galon dyner a chariadus, a bod ynddo y cyfaill a'r dyngarwr diffuant yn trigo. Mab iddo yw y Parch. Rees J. Jones, sydd wedi ei ddilyn yn Aberdar. Yr oedd Mr. Jones yn wr o alluoedd cryfion, yn ysgolor da, ac o fywyd tra llafurus. Efe oedd y cyntaf i feddwl am gychwyn yr Ymofynydd, a hyny mor gynnar a'r flwyddyn 1835. Gadawodd ar ei ol lawer o bregethau dysgedig.

JONES, JOHN, o'r Ystrad, ger Caerfyrddin, a aned, medd rhai, yn y Crynfryn, plwyf Nantcwnlle; ond dywed ereill, yn Heol y Brenin, Caerfyrddin Yr oedd yn fab i Thomas Jones, yr hwn fu farw yn 1793. Hanai ei dad o Johnsiaid Abermarlais; a bu y gangen yr hanai ef o honi yn preswylio yn Llansadwrn a Job's Well. Yr oedd ei fam, Anna Maria, yn gydetifeddes John Jones, Ysw., o'r Crynfryn. mab John Jones, o'r Tyglyn. Nid yw yn debyg i Mr. Jones dreulio nemawr o amser yng Ngheredigion, er mai yma, fel y dywedir, y ganed ef. Cafodd ei ddwyn i fyny yn far-gyfreithiwr, a chyrhaeddodd radd uchel iawn