ac yn parhau i fod, yn bobl barchus a dylanwadol yn y wlad. Y mae Penpontbren Uchaf ar lan yr afon Llyri; (1) a phan yn dra ieuanc, syrthiodd Mr. Jones i'r afon hono, a bu agos a boddi; a buasai yr amgylchiad galarus wedi cymmeryd lle, oni buasai i'w fam yn rhagluniaethol ei ganfod yn cwympo, ac felly rhedeg i'w gipio o'r llif. Bu brawd iddo foddi yn y fan. hòno ychydig cyn hyny. Anfonwyd ef i Ysgol Ramadegol Ystrad Meurig, lle yr addysgwyd ef yn elfenau gwybodaeth glasurol a chyffredinol, dan ofal yr enwog Barch. John Williams. Symmudodd oddi yno i Ysgol Ramadegol Clitheroe, sir Gaerhirfryn, lle yr arosodd am flynyddau fel un o'r athrawon, Yn ystod ei arosiad yno, efe a ennillodd sylw ąc edmygedd llywyddion y sefydliad, yn enwedig y Parch. Gorweinydd Parker, periglor Bentham. Trwy ddylanwad teulu y boneddwr hwnw, cyflwynwyd Mr. Jones i fywoliaeth Almondbury, heb ymofyn am dani, ac ymsefydlodd yn 1822. Pan ddaeth i'r lle, cafodd werth y fywoliaeth mor fychan, fel y gorfu, er mwyn cadw ei hun rhag angen ymborth, gymmeryd nifer o fyfyrwyr fel byrddwyr i dderbyn addysg glasurol. Gosododd ei feddwl ar waith i chwanegu gwerth y fywoliaeth, a thrwy ei graffder a'i ddyfal barhâd, efe a'i cododd yn ystod ugain mlynedd yn werth 670p. y flwyddyn. Ychydig amser wedi hyny, cafodd fywoliaeth Llandefaud, Gwent Isgoed, lle yr oedd yr Eglwys mewn cyflwr tra dadfeiliedig. Efe a ymwrthododd â chynnyrch arianol ei swydd fel offeiriad y plwyf, gan gyflëu y cwbl a dderbyniai tuag at adgyweirio yr hen adeilad, tra bu yn ei dal. Trwy ei haelioni a'i ofal ychwanegwyd llawer ar werth y fywoliaeth. Ni dderbyniodd efe ddim oddi wrthi. Ar ol iddo adeiladu yr Eglwys yn 1843, ysgoldy hardd, & thy cyflëus i'r athraw, a gwaddoli yr ysgol ag ugain punt y fwyddyn, rhoddodd y fywoliaeth i fyny. Y mae plwyf Almondbury, yn yr hwn y bu Mr. Jones yn llafurio am
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/148
Prawfddarllenwyd y dudalen hon