gymmaint amser, yn cynnwys 30,140 erwau o dir, a phan ddaeth dan ei ofal, nid oedd braidd ddim cyfleusderau Eglwysig ac addysgiadol, er fod y boblogaeth pryd hyny yn 13,539. Byddai yn fynych yn y nos, yn cael ei alw oddi wrth ei deulu i deithio ym mhell dros y bryniau i fwthynod y plwyfolion, er esmwythäu y cleifion a'i gymmwynasau tyner, ac i gryfhau llawer enaid prudd ar ei ddynesiad i dragwyddoldeb, â gweddiau rhagorol yr Eglwys Fel offeiriad llafurus a Christion ystyriol, ymgynghorodd â chyfoethogion y gymmydogaeth gyda golwg ar adeiladu eglwysi newyddion yn y trefilanau; a llwyddodd yn yr anturiaeth. Bu yn offerynol i godi nid llai na phymtheg Eglwys newydd yn y plwyf, ugain o yagoldai, a thri ar ddeg o bersondai! Yr oedd ar ddechreu adeiladu eglwys newydd a phersondy yn Longley, treflan tua milltir a banner o eglwys y plwyf. Mae y trigolion erbyn hyn wedi cynnyddu dros ddwy fil a deugain. Amcan mawr arall ganddo oedd cyflwyno gwybodaeth fuddiol i blant y dosbarth gweithiol, fel y gwelir yn ysgolion cenedlaethol Almondbury, y rhai a godwyd ac a gynnaliwyd ganddo hyd ei farwolaeth. Priododd yn y flwyddyn 1830, a Miss Watkyn, Moelcernydd, Ceredigion, yr hon sydd yn awr yn fyw, yng nghyd ag un mab a thair merch. Ymddangosodd anerchiad priodasol iddynt gan Carn Ingli yn y Gwladgarwr. Er ei fod wedi treulio ei oes yn Lloegr, yr oedd yn Gymro o galon lwyr Gymreig, yn llawn gwladgarwch. Yr oedd ei iaith, ei wlad, a'i genedl, yn gyssegredig yn ei galon; ac yr oedd gyda'r hyfrydwch mwyaf yn croesaw brodorion Cymru a fyddent yn ymweled â'r parth hwnw o Loegr. Bu dros ddeng mlynedd ar hugain yn llywydd ar "Gymdeithas Offeiriadol Gymreig swydd Gaerefrog." Dyben y gymdeithas hòno oedd gwella yr Eglwys Gymreig, drwy ymdrechu cael Cymry i lanw yr esgobaethau yng Nghymru. Traethodd y gwladgarwyr hyn eu meddyliau yn ddidderbyn wyneb. Y mae llyfrynau wedi eu cyhoeddi yn cynnwys yr areithiau a draddodwyd ganddynt yn eu cyfarfodydd blynyddol ar ddydd gwyl Dewi. Bu Mr. Jones yn offerynol i blanu llawer o offeiriaid Cymreig yn ei ardal; ac un o honynt oedd y diweddar Garn Ingli,
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/149
Prawfddarllenwyd y dudalen hon