Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/154

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

“Bued na wypo byd neppell,
lë, naill law a wnel y llall."

Nid oedd yn ymofyn cael ei weled. Yr oedd yn aelod aiddgar iawn gyda'r Undodiaid ym Mhant y Defaid ; ac ef allai nad oedd modd cael nemawr un yn fwy felly yn y wlad. Yr oedd hefyd yn gerddor gwych, ac yn gallu chwareu amryw offer cerdd. Ysgrifenodd lawer i'r Seren Gomer ar bynciau dadleuol ei oes— pynciau yn benaf yn perthyn i Undodiaid. Ei brif ffugenw oedd Amnon. Bu farw ei wraig gyntaf pan yn lled ieuanc, ac efe a briododd yr ailwaith, â Miss Martha Gough, Ffynnon Oer. Bu farw Chwefror 15, 1844, yn 47 oed, a chafodd ei gladdu ym mynwent Pant y Defaid. Ysgrifenwyd cofiant gweddol helaeth iddo yn Seren Gomer, yng nghyd ag englynion, gan Thomas Emlyn Thomas. Casglwyd a chyboeddwyd ei waith barddonol gan ei frawd, y Parch. John Jones, Aberdar, dan yr enw Crwth Dyffryn Clettwr, yn 1848. Gadawodd ar ei ol ddwy ferch o'r wraig gyntaf, y rhai sydd mewn amgylchiadau cyfoethog a pharchus.

JONES, SAMUEL, oedd fab henaf John Jones, Llwyn Rhys. Cafodd ysgol uchel, a daeth yn ysgolfeistr dysgedig. Bu am flynyddau lawer yn cadw ysgol enwog yn Richmond, ger Llundain. Bu ei frawd, y Cadben Jones, yn yr ysgol ganddo Cymmerodd ran yng nghyfansoddi y llyfrau a ysgrifenodd ei frawd; ond pa faint nid oes hanes. Mae yn debyg iddo, fel y Cadben, orphen ei oes yn Lloegr.

JONES, SYLVANUS, yr achwr a'r hynafiaethydd enwog o Nant yr Ymenyn, Llandyssul, oedd o'r un teulu a Jonesiaid Llanio a Llancych. Yn ol achres Llanio, priododd Walter Jones, Llanio, & merch Walter Jones, Nant yr Ymenyn, a chwaer Sylvanus Jones, a thyna yr unig gyssylliiad. Arddelai Llanio arfbais Gweithfoed Fawr, a Nant yr Ymenyn arfbais Tewdwr Mawr. Treuliodd gryn amser yn India. Meddiannai lawer iawn o ysgriflyfrau hynafiaethol. Mae o'n blaen hen achlyfr gwerthfawr a ysgrifenodd ei hun, wedi ei ddyddio Mai, 1763. Y mae yr achlyfr hwn yn dangos fod yr awdwr yn hynafiaethydd cyfarwydd. Cynnwys achau hen deuluoedd swyddi Ceredigion a Chaerfyrddin. Bwriadai ysgrifenu ar sir Benfro; ond yn rhywfodd