Emrys, a Thaliesin Benn Beirdh, ac yn Nghelbhydhyd Arwydhbhardhoniaeth, o ran gwybod yn berphaith 'wir Achoedh, ac arwydhion, a' Theilynghdawt, ac odidogion weithredoedh Pendevhigion, a' Bonedhigion Cymru; odidochabh, a pherpheithiabh (a hyny yn ddiammheu) y bernir Thomas Sion.., alias Moetheu o Borth y Phyonon, yn ymyl Trebh Garon (Thomas Jones of Fountain Gate). A' phan dharpho am dano, ebh a bhydh dhigon petrus y dhamwain alhu o hono yr hawc, âdu yn ei öl Cymar iddo; na chwaith neb rhyw achwr, a dhichon (o rann bod mor gyfhredin ac ebh ynn yr 'wybodaeth honn) wneuthur cymeint a phwyso parth ac atto."
Yr oedd Thomas Jones, neu Moethau, yn hanu o Ddafydd Moethau a Gruffydd Foel, o Gastell Odwyn, hen deulu Arglwyddi Ceredigion; ac yr oedd rhai o honynt yn ysgolheigion ac arwyddfeirdd enwog. Fel hyn y mae hen achres o'n blaen “Dafydd Moethau o Lanbadarn Odwyn, Rhys, Hywel, Madog, Dafydd. Plant Dafydd ab Madoga-1 John, 2 Rhys, 3 John, 4 Lewis, Master off Arts, 5 Roegiar, 6 Richard. Mam rhain Siwan v. ag aeres Lewys ab Llywelyn, ab Gruffydd Fychan, ab Dafydd Fongam (Fychan?) ab Dafydd ab Meirig Goch, &c. Plant John ab Dafydd, Tomos b Johns o Borthffynnon. Mam Tomos - Kathrin b v. Meredydd ab Ieuan ab Robert. Arfau Thomas Johns hwn yw pais Gweithfoed.” Mae yr achres o waith Tomos Jones ei hun; ac ni a welwn ei fod yn ddigon geirwir i osod b ar ei ol ei hun, ac ar ol ei fam, i ddangos mai basdarddiaid oeddynt. Priododd Tomos Jones & Jane, ferch Syr John Pryse o Aberhonddu. Bu Jane Pryse yn briod cyn hyny â Syr George Devereux, ac wedi hyny â Thomas ab Rhys ab William ab Thomas, o Ystrad Ffin, Ysw. Na rodder coel i'r sothach celwyddog a draethir am y gwr enwog hwn gan Llywelyn Prichard ac ereill.
JONES, THOMAS, ydoedd fab Edward Jones, Nanteos, lle y ganwyd ef yn 1618. Derbyniodd ei ddysg yng Ngholeg Merton, Rhydychain, lle yr etholwyd ef yn ddysgybl ysbas; pan yn ugain oed, 1637, yn athraw y celfyddydau. Ymwelodd â Ffrainc ac Itali, gyda George, mab ac etifedd Syr Nathan Brent; ond dychwelodd yn anffodus i'w amcan; ac ymostyngodd i ymwelwyr penodedig y Senedd, Awst 6,