Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/159

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a daliodd ei gyssylltiad â'r plwyf am saith a deugain o flynyddau, yn y cylch o gurad, gyda'r eithriad o'r pum mlynedd olaf, pryd yr oedd yn beriglor. Yn y flwyddyn 1810, cafodd hefyd guradiaeth Spratton, yr hon a ddaliodd am ddeunaw mlynedd. Yn ystod yr amser hirfaith hyn, ennillodd iddo ei hun air da fel pregethwr efengylaidd, ac y mae ei weithiau rhagorol wedi taenu ym mhell ei glod; ac y maent yn cael eu darllen yn barhäus gyda chanmoliaeth fawr. Yr oedd ei boblogrwydd fel pregethwr yn uchel iawn, fel y deuai pobl o bymtheg ac ugain milltir i'w wrando; ac yr oedd prif dduwinyddion ac enwogion ei oes yn arfer talu ymweliad ag ef yno, ac yn pregethu. Sefydlodd Ysgol Sul yn Creaton yn 1789, yr hun oedd y cyntaf a sefydlwyd yn y sir hono, yr hon a fu yn fawr fendith i'r ardal. Ymwelodd â Chymru yn y flwyddyn 1789, er mwyn cryfhau ei iechyd; a phryd hyny, cymmerodd yn ei feddwl y mawr angen am ragor o Feiblau yn y wlad; ac felly efe a feddyliodd yn benderfynol i sefydlu rhyw gynllun i ddiwallu yr angen. Gobebodd â Mr. Charles o'r Bala, gan ddywedyd, "Mae y bobl yn marw o eisieu gwybodaeth." Dyma ddechreuad y symmudiad gogoneddus o sefydlu y Feibl Gymdeithas, yr hon, erbyn hyn, sydd wedi gwneyd mwy o ddaioni i Gymru, a rhanau ereill o'r byd, nas dichon un rhifyddwr ddangos, nac un areithiwr ddadgan: y fath beth gwerthfawr i'r byd yw cael gweinidog yr Efengyl, â gogoniant ei Dduw a les ei gyd-ddynion yn bobpeth yn ei galon. Yr oedd yn caru ei gydgenedl y Cymry o galon bur yn helaeth; a phan yn ysgrifenu at ei gyfeillion, byddai yn dangos ei hoffder o'r Cymry; ac yr oedd ei holl weithredoedd yn profi hyny; ond nid oes neb o ddynion da y byd heb fod felly. Bu farw y gwr enwog a thra rhagorol hwn, Ionawr 7, 1845, a chafodd ei gladdu ym mynwent Spratton, mewn man o’i ddewisiad ei hun.

Yr oedd Mr. Jones yn awdwr enwog, ac efe a gyhoeddodd y llyfrau canlynol yn Gymraeg. Cyfieithadau yw y rhan fwyaf a gyhoeddodd yn Gymraeg:-1 Rhodd i Gymmydog, gan Syr Richard Hall, 1783. 2. Gorphwysfa y Saint, gan Baxter. 3. Deuddeg o Bregethau ar Lyfr y Caniadau, gan