Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/161

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Er ei gwawrddydd o rydd ras
Dwthwn y Feibl Gymdeithas,
Elusen Elusenau!
Beth am hon byth i'w mwyhau?"

Yr oedd awen y bardd yn crochwenu wrth weled effeithiau daionus y Gymdeithas hon: ar ol i wybodaeth o Dduw daenu dros y byd, a phob gau grefydd ddarfod, gwaeddai allan,-

“Oian, ho, hoian, ha, ha, --crecbwenir
Yn nef, ban gwelir gan feibion GWALIA!"

(1) Cafodd ei Immanuel ei gyfieithu gan y Parch. M. R. Morgan,Llansamlet.

JONES, THOMAS, yr ysgolfeistr Cymreig olaf yn Ysgol Mrs. Bevan, ac ef allai hefyd yr olaf oll yng Nghymru, a aned yn Ffynnonau, plwyf Llandyssul. Ni fu erioed ysgolfeistr tebyg i Thomas Jones; yr oedd ganddo ddull hynod ei hun i ddysgu plant, a hwnw yn un tra llwyddiannus. Nid oes neb yng Nghymru yn awr a allant ddarllen Cymraeg mor odidog a'r rhai hyny fu yn ei ysgol ef. Son am Eisteddfodau a phethau ereill, eu bod yn gwneyd lles i'r Gymraeg! ni wnaeth neb na dim gymmaint lles yn y ffordd hon a Thomas Jones. Gorfu iddo yn y rhan olaf o'i oes blygu i ddysgu Seisoneg i'r plant; a gallodd wneyd hyny gyda llawer iawn o lwyddiant; ond Cymro Cymreig iawn oedd o ran ei deimladau. Bu farw yn y Cilgwyn, plwyf Nefern, yn 1853, ar ol gwasanaethu ei genedl gyda'r defnyddioldeb mwyaf. Bu yn cadw ysgol am 35 mlynedd.

JONES, THOMAS HUGH, Neuadd Fawr, ger Llanbedr, a anod yn y palas hwnw Awst 9fed, 1778. Enwau ei rieni ydoedd Thomas ac Ann Jones. Derbyniodd ei addysg foreuol yn ei ardal enedigol; ac er mwyn gwell manteision, anfonwyd ef drachefn i ysgol gyfrifol yng Nghaerwrangon. Ar ol gorphen ei addysg, daeth yn ol i'w le genedigol, sef y Neuadd Fawr. Yr oedd ei dad yn feddyg tra llwyddiannus yn ei amser, ac yn hollol hunanddysgol. Rhoddai ei wasanaeth yn rhydd ac yn rhad, a'r unig daliad a dderbyniasai oedd y pleser o weled ei waith yn gwneuthur lles i'w gyd-ddynion. Dechreuodd yntau (Mr. Thomas Hugh Jones) gymmeryd yn yr un gorchwyl daionus, a chynnyddodd yn fuan ym mhell tu